Sir G芒r: Gwrthod cynnig i godi cwt i ddal 32,000 o ieir

Disgrifiad o'r llun, Roedd fferm Godre Garreg eisiau codi cwt gyda hyd o 140m ac uchder o 7m ar gyfer ieir buarth

Mae pwyllgor yn Sir G芒r wedi gwrthod cais i godi cwt i 32,000 o gywion ieir yn Llangadog.

Roedd y cynlluniau ar fferm Godre Garreg yn ddadleuol, gydag un pentrefwr yn dweud eu bod wedi "rhannu'r gymuned".

Argymhelliad swyddogion cynllunio'r sir oedd cymeradwyo'r cais.

Ond fe bleidleisiodd y pwyllgor cynllunio ddydd Mawrth yn erbyn y cynlluniau. Roedd naw cynghorydd yn erbyn, un o blaid, gyda dau yn atal eu pleidlais.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Colin Henry ei fod yn poeni am yr arogl o'r cwt

Bwriad fferm Godre Garreg oedd adeiladu cwt 140m mewn hyd gydag uchder o 7m. Fe fyddai wedi bod yn gartref i ieir buarth.

Roedd pryderon wedi cael eu codi'n lleol am safle'r cwt, gyda rhai'n dweud y byddai wedi bod yn rhy agos i ganol y pentre'.

Dywedodd cyn-gynghorydd ei fod yn pryderu am y traffig posib, ynghyd 芒'r gwastraff a'r arogl.

Roedd degau wedi ysgrifennu at y cyngor sir i ddatgan eu gwrthwynebiad, gyda'r cyngor cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu.

Aeth aelodau'r pwyllgor cynllunio i ymweld 芒'r safle fore Mawrth cyn ailymgynnull i bleidleisio ar y mater.