Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Goleuni trwy'r tywyllwch
Dros nos, aeth mam un ferch o orllewin Cymru, yn ddall. Collodd Louise Jenkins, o Henllan ei golwg yn llwyr mewn un llygad dros ddeng mlynedd yn 么l. Ei merch, Alison Jenkins sy'n rhannu stori'r teulu gyda Cymru Fyw.
Roedd teulu'r Jenkins fel pob teulu arall - gyda'r rhieni'n gweithio, a'r plant yn yr ysgol a bywyd yn un ras wyllt. Ond newidiodd pethau dros nos 13 mlynedd yn 么l, a throi bywyd teulu wyneb i waered.
"Nid fi oedd yn bwysig, bellach, a mynd mas gyda ffrindiau ac ati. Roedd rhaid i hynny stopio," meddai Alison Jenkins, 27 oed o Henllan, ger Llandysul.
"Gyda finne ond yn 14, a fy chwaer, Michelle, yn 16, roedd rhaid i'r ddwy ohonom, a fy nhad, addasu'n gyflym er mwyn ceisio helpu Mam y gorau gallwn ni."
Wedi amser byr o ddioddef cur pen, collodd Louise Jenkins, ei mam, a oedd yn ei phedwardegau ar y pryd, ei golwg mewn un llygad yn llwyr, ac roedd y llall yn dirywio.
"Doedd Mam ddim yn gallu ein gyrru ni i lefydd bellach, ac roedd yr euogrwydd hynny yn ei bwyta hi'n fyw. Ein lle ni oedd i leddfu hynny a gwneud pethau'n haws iddi, yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Helpu Mam oedd y flaenoriaeth, ac roedd hynny'n golygu bod o gwmpas iddi yn ystod bob eiliad sb芒r. Roedd rhaid rhoi fy mywyd i ar hold," meddai Alison.
"Er hynny, daethon ni'n agosach fel teulu. Roedd rhaid i ni dreulio mwy o amser gyda'n gilydd felly roedd hynny'n fendith."
Ar 么l rhyw chwe blynedd o ofalu, daeth llygedyn o obaith i'r teulu wrth i Louise gael ei chi tywys cyntaf.
"Opal oedd ei enw, ac yn sydyn iawn roedd Mam fel menyw newydd - o'r diwedd, roedd ganddi'r rhyddid yr oedd hi wedi eu colli ers blynyddoedd," meddai Alison.
"Er ein bod ni wedi bod yn gefn iddi, roedd yr unigrwydd yn bwyta Mam yn fyw. Ond diolch byth, roedd dyfodiad Opal yn rhyfeddol arni, achos nawr, doedd hi ddim yn gorfod aros yn y t欧, a diflasu."
Roedd hi'n gallu mynd ar y bws i'r dref, meddai, neu fynd am dro ar droed.
"Aeth hi o fod mor ddiflas i fod ar ben y byd, a hynny oherwydd Opal. Wnaeth ci tywys drawsnewid ei byd hi," meddai Alison Jenkins.
Pris sy'n werth ei dalu
Yn anffodus ar 么l chwe blynedd, aeth Opal yn s芒l, a bu'n rhaid chwilio am gi tywys arall. Tan hynny roedd bywyd ar stop unwaith yn rhagor.
"Diolch byth, daeth Quinta wedyn, a chodi hwyliau Mam. Ond wyth mis wedyn, bu'r ddau mewn damwain bws ac roedd yn rhaid i'r ci ymddeol oherwydd bod ganddo ofn teithio ar fws ers y ddamwain," meddai Alison.
Mae'n costio tua 拢32,000 i hyfforddi un ci tywys, ac mae hyn yn cynnwys y ddwy flynedd gyntaf - o'r geni i'r graddio. Wedi hynny, mae'n costio 拢12,800 i gefnogi'r bartneriaeth am rai blynyddoedd.
"Mae ganddi Trinity yn ei bywyd hi erbyn hyn, ac mae Mam yn byw bywyd llawn unwaith eto."
Ychydig fisoedd yn 么l, wnaeth Alison godi arian i gymdeithas c诺n tywys drwy neidio allan o awyren. Mae codi arian yn hollbwysig, meddai.
"Dw i wedi gweld cymaint mae c诺n tywys yn gallu newid bywyd rhywun, a gallwch chi fyth rhoi pris ar hapusrwydd a rhyddid," meddai Alison Jenkins.
"Mae fy mam wedi gwneud cymaint drosta i, felly'r peth lleia' galla' i ei wneud yw ceisio codi cymaint o arian ag y galla' i."
Byw bywyd i'r eithaf
Mae'n wyrthiol fel y mae ci tywys wedi cyfoethogi bywyd ei mam, yn 么l Alison Jenkins.
"Mae wedi dechrau rhedeg, ac mae hi mas dipyn. Mae hi'n teimlo bod bywyd yn rhy fyr - dyw hi ddim yn gadael i'r ffaith ei bod hi wedi colli ei golwg ei dal hi n么l mewn bywyd," meddai Alison.
Llynedd, enillodd ei mam wobr Inspirational Guide Dog Owner of the Year, wedi i wylwyr rhaglen deledu This Morning bleidleisio drosti.
"Roedd yn goron ar flynyddoedd o frwydr,"