大象传媒

Trydedd bont dros y Fenai erbyn 2021?

  • Cyhoeddwyd
Pont BritanniaFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'n bosib mai atgof yn unig fydd ciwio dros y pontydd rhwng Ynys M么n a'r tir mawr erbyn 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai wrth raglen materion cyfoes 大象传媒 Radio Cymru, Manylu.

Yn 么l y llywodraeth mae amserlen gaeth wedi ei llunio, sydd yn cynnwys ymgynghori 芒'r cyhoedd yng ngwanwyn 2018, dewis llwybr erbyn yr haf, a dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2020, gyda'r gwaith wedi ei orffen erbyn diwedd 2021.

Arian i ddylunio'r bont

Mi fydd y bont yn cynnwys amddiffynfeydd rhag y gwynt er mwyn osgoi gorfod ei chau yn ystod tywydd garw.

Mae un o'r cwmn茂au sydd yn gwneud gwaith cychwynnol ymchwiliadol i'r llywodraeth - Knight Architects - wedi dweud wrth y rhaglen dylai'r dyluniad newydd barchu'r hen bontydd yn ogystal 芒'r dirwedd, ond hefyd bod yn brydferth gyda'i chymeriad unigryw ei hun.

Yr wythnos hon mae Manylu yn datgelu manylion y cynllun sy'n cael ei asesu ar hyn o bryd.

Un o'r opsiynau sydd yn cael ei ffafrio ydy pont newydd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Pont Britannia.

Mae 拢3m o bunnoedd ychwanegol wedi cael ei glustnodi yng nghyllideb y ddwy flynedd nesa gan Lywodraeth Cymru'r wythnos hon. Mi fydd yr arian yn mynd tuag at ddylunio a datblygu'r bont.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud y byddai pont arall yn dod 芒 budd hir dymor

Gall y 拢135m sydd ei angen i'w chodi ddod gan Lywodraeth Cymru. Ond mae gobaith bydd y National Grid, sydd am wario 拢200m ar dwnnel o dan y fenai i gario ceblau o Wylfa Newydd i'r is-orsaf drydan ym Mhentir ger Bangor, roi'r arian tuag at godi'r bont yn hytrach na thwnnel.

Byddai'n anghyfrifol i beidio trafod hyn yn 么l Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth.

"Da ni'n s么n am 拢200m. Onid ydy'n gwneud synnwyr perffaith i ddefnyddio'r arian yna i fuddsoddi mewn croesiad ar draws y Fenai fyddai'n dod 芒 budd hir dymor o'r arian yna.

"Gwastraff arian llwyr i fi ydy'r syniad o adeiladu twnnel pan allai'r arian fod yn cael ei roi tuag at groesiad a hynny yn cario'r gwifrau a hefyd ar yr un pryd yn ateb y gofynion ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth," meddai.

"Mae'n rhaid i'r Llywodraeth a'r National Grid drafod hyn."

Disgwyl am ddegawd

Roedd cynlluniau ar y gweill i godi pont newydd 10 mlynedd yn 么l, meddai Dewi Williams, pennaeth priffyrdd Cyngor Ynys M么n.

"'Dan ni wedi bod yma 10 mlynedd yn 么l a byddai'n dda meddwl bydd rhywbeth positif yn dod o hyn tro 'ma.

"Y broblem fawr sydd ganddo ni ydy gwyntoedd cryfion neu ddamweiniau ar y bont.

"Mi gawsom ni achos rhyw ddwy, dair blynedd yn 么l pan oedd y bont 'di cau am 16 awr pan oedd lorri 'di troi drosodd, ac ma' hynny yn hollol ddinistriol i Sir F么n yn arbennig."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Pont y Borth ei hadeiladu gan Thomas Telford

Mae'r rhaglen wedi siarad gyda nifer o bobl sydd yn defnyddio'r pontydd yn gyson sydd yn credu ei bod yn hen bryd cael ffordd ychwanegol.

Ond does 'na ddim galw am un yn 么l cyn ysgrifennydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Gwynne Morris Jones.

"Y mwyaf dwi wedi cael fy nal i fyny ar bont Britannia - a dwi wedi bod yn teithio drosdi ers blynyddoedd - ydy 10 munud. Tydi o ddim byd fel y tagfeydd sydd ar yr M25 rownd Llundain a'r M6 yn ardal Birmingham. Dydy o ddim werth y gost a'r niwed i'n hamgylchedd ni."

Manylu ar 大象传媒 Radio Cymru Dydd Iau 5 Hydref am 12.30 a dydd Sul 8 Hydref am 16.00.