Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trafodaethau Brexit: 'Cam sylweddol ymlaen'
Mae "cam sylweddol ymlaen" wedi bod yn y trafodaethau Brexit rhwng Llywodraeth y DU a Chymru medd dirprwy Theresa May.
Yn 么l Damian Green mae'r honiadau o "herwgipio pwerau" wedi eu rhoi i un ochr yn sgil y trafodaethau rhwng Llywodraeth San Steffan, yr Alban a Chymru.
'Parchu' datganoli
Dywedodd Mr Green fod arweinyddion wedi cytuno'r egwyddorion fydd yn sail i asesu'r cydweithrediad sydd yna rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig wrth drafod Brexit.
Ond dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi'r cyfarfod y gallai Llywodraeth Cymru dal atal rhoi caniat芒d ar gyfer deddfwriaethau allweddol Brexit oni bai bod yna gytundeb.
"Rydyn ni wedi cytuno bod angen ffordd i warchod marchnad sengl Prydain fel na fydd busnesau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu niweidio a'n bod yn parchu'n llawn y setliad datganoli," meddai Mr Green.
"Rydyn ni yn disgwyl mai pendraw hyn fydd mwy o bwerau i'r llywodraethau datganoledig na'r cytundeb blaenorol ac mae'r Alban, Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno'r egwyddor yma a dw i'n meddwl bod hynny yn gam sylweddol ymlaen."
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "herwgipio pwerau" trwy geisio cadw pwerau yn San Steffan ar 么l iddyn nhw ddychwelyd o Frwsel.
Roedd Mark Drakeford yn cytuno bod y cyfarfod wedi bod yn bositif a chadarnhaol ond ychwanegodd bod y ddeddf UE, sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd, angen ei ddiwygio.
Dadansoddiad ein Gohebydd Seneddol, Elliw Gwawr
Mae 'na newid t么n wedi bod yn y trafodaethau diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ar Brexit.
"Does neb yn s么n am gipio grym bellach," medd dirprwy Theresa May Damian Green wedi'r cyfarfod heddiw.
Ac mae'n amlwg o siarad gyda Carwyn Jones yr wythnos diwethaf a'i Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford heddiw eu bod nhw'n teimlo bod Llywodraeth Prydain yn dechrau gwrando ar eu pryder bod y mesur Brexit yn cipio grym oddi ar y sefydliadau datganoledig.
Dyw Llywodraeth Cymru dal ddim yn barod i roi eu s锚l bendith i'r mesur eto, ond mewn cam ymlaen, mae'r llywodraethau wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd mewn modd sy'n gweithio er budd yr holl Deyrnas Unedig ond sydd hefyd yn parchu datganoli.
Does dim dwywaith nad dyma broblem fwyaf Llywodraeth Prydain pan mae'n dod i Brexit, ond eto dyw o ddim yn un y gallan nhw ei anwybyddu chwaith.
Mae 'na waith i'w wneud ar y manylion, ond erbyn hyn mae'n edrych fel un broblem o leiaf sy'n debygol o gael ei datrys.