Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi manylion map newydd etholaethau Cymru
- Awdur, Aled ap Dafydd
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae cynigion newydd i gael gwared 芒 mwy na chwarter aelodau seneddol Cymru wedi eu cyhoeddi.
Pe bai newidiadau'r Comisiwn Ffiniau yn gweld golau dydd, rhain fyddai'r diwygiadau mwyaf i fap etholiadol Cymru ers degawdau.
Byddai nifer y seddi Cymreig yn Nh欧'r Cyffredin yn gostwng o 40 i 29, gyda maint cyfartalog pob etholaeth yn cynyddu o tua 20,000 o bleidleiswyr.
Bydd cyfnod ymgynghori pellach o ddau fis arall cyn cyhoeddi'r cynigion terfynol ym Medi 2018.
Mae 19 o newidiadau i argymhellion cyntaf y comisiwn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016.
'Anghenion lleol'
Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol oedd rhannu tref Port Talbot rhwng dwy etholaeth.
Mae hyn bellach wedi newid gydag etholaeth arfaethedig Ogwr ac Aberafan yn cynnwys yr holl dref.
Newid arwyddocaol arall yw cynnwys Caernarfon yn etholaeth newydd Gwynedd, yn hytrach nac etholaeth Ynys M么n a Bangor.
Dywedodd Steve Halsall, ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, eu bod "wedi cynhyrchu set o gynigion sy'n cyfarfod 芒 gofynion Deddf 2011".
Ychwanegodd: "Mae hefyd wedi rhoi sylw i ffactorau eraill sy'n berthnasol i Gymru ac wedi ceisio nodi'r cynigion sydd fwyaf addas i'r anghenion lleol yng Nghymru."
Bydd ffiniau etholaethol yn newid ledled y DU, gan leihau maint T欧'r Cyffredin o 650 i 600 o seddi.
Ond bydd Cymru'n gweld y toriad cyfrannol mwyaf ymhlith pedair gwlad y DU.
Dywedodd y Comisiwn Ffiniau eu bod yn ceisio cynnal cysylltiadau cymunedol a ffiniau hawdd eu hadnabod gymaint ag y bo modd, heb roi sylw i ystyriaethau gwleidyddol.
Roedd lleihau nifer yr aelodau seneddol yn ymrwymiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr.
Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud y gallai arbed 拢50m dros bum mlynedd.