Carthion yn llygru 'un o bob pum afon' yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l WWF, mae angen mwy o reoleiddio i osgoi llygredd carthion

Mae bron i un o bob pum afon yng Nghymru wedi eu llygru gan garthion, yn 么l dogfen newydd.

Yn 么l dadansoddiad cwmni ymgynghori, mae 17% o'r afonydd yn yr ardal sydd dan ofal D诺r Cymru wedi eu heffeithio.

Mae'r data yn rhan o adroddiad gan elusen WWF sy'n honni bydd problemau carthion yn gwaethygu.

Ond dywedodd WaterUK, sy'n cynrychioli cwmn茂au d诺r, bod y mudiad yn rhoi "darlun anghywir".

Canran leiaf o Gymru a Lloegr

Yn 么l y data, ardal D诺r Cymru sydd 芒'r ganran leiaf o afonydd sydd wedi'u llygru gan garthion o ardaloedd y 10 cwmni d诺r yng Nghymru a Lloegr.

Mae 61% o afonydd ardal cwmni D诺r Hafren Trent, sy'n cyflenwi rhannau o ganolbarth Cymru, wedi'u heffeithio yn 么l y ddogfen.

Dywedodd Ben Stafford o WWF bod angen mwy o reoleiddio ac na ddylai hi "fod yn gyfreithiol dderbyniol i lygru ein hafonydd neu ollwng carthion sydd heb eu trin yn aml".

Ond yn 么l llefarydd ar ran WaterUK, dydy'r WWF ddim yn gwahaniaethu rhwng llygru difrifol a'r mwyafrif o achlysuron sydd "ond ag effaith gyfyngedig neu leol ar safon d诺r".