Dim un ymgeisydd am swydd mewn meddygfa heb feddyg

Ni wnaeth unrhyw berson wneud cais am swydd meddyg teulu mewn meddygfa yn Sir Benfro mewn naw mis, yn 么l adroddiad.

Does dim meddygon parhaol ym meddygfa Wdig, ac mae'n cael ei reoli'n llwyr gan feddygon dros dro.

Er i 2,600 o bobl edrych ar hysbyseb am swydd meddyg, gyda chyflog o 拢84,000 y flwyddyn, does neb wedi gwneud cais.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "rhannu siomedigaeth y gymuned".

'Problem genedlaethol'

Dywedodd Dr Iain Robertson-Steel o'r bwrdd iechyd bod ymgais i lenwi'r swydd yn parhau, ond bod ceisio denu meddygon teulu yn "broblem genedlaethol".

Ychwanegodd: "Nid yw problemau recriwtio a chadw meddygon teulu yn unigryw i Sir Benfro."

Mae'r adroddiad, gafodd ei drafod gan Gyngor Sir Penfro ddydd Iau, yn dweud bod y feddygfa yn defnyddio ymgynghoriadau dros y ff么n i drin cleifion.

Yn y cyfamser mae meddygfeydd Tyddewi a Solfach yn cael eu rheoli gan un meddyg teulu, wrth i'r meddygfeydd rannu gwybodaeth am gleifion er mwyn lleihau pwysau ar rai adegau yn y dydd.

Ychwanegodd Rebecca Payne, cadeirydd y Coleg Meddygol Brenhinol, bod y bwrdd iechyd wedi bod yn cefnogi meddygfa Wdig, ond bod angen newid y ffordd o ddenu meddygon i Gymru.