大象传媒

Lluniau: Caffis Eidalaidd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddiwedd cyfnod ym mhentref Gwauncaegurwen.

Ar 么l 112 o flynyddoedd o lenwi boliau trigolion Dyffryn Aman a Chwm Tawe, mae caffi Eidalaidd enwog Cresci's wedi cau ei ddrws am y tro olaf.

Mae'n batrwm cyson ar draws Cymru. Ar un adeg, roedd dros 300 o gaffis Eidalaidd yn gwasanaethu cymoedd y de, ond dim ond llond llaw o'r rhai gwreiddiol sydd ar 么l heddiw.

O ddiwedd y 19G tan ganol yr 20G daeth miloedd o Eidalwyr i Gymru i agor caffis, parlyrau hufen i芒 a siopau sglodion. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Starbucks a Costa, roedd enwau fel Sidoli, Gambarini, Conti a Bracchi yn enwog ar draws ardaloedd diwydiannol y de.

Dyma gofnod, mewn lluniau, o'r bywyd a'r cymeriadau sy'n cadw'r traddodiad hwnnw yn fyw yn rhai o gaffis gwreiddiol Eidalaidd de Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe agorwyd Station Cafe yn 1935 yn Nhreorci, Cwm Rhondda gan Yr Eidalwr Joe Balestrazzi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Domenico Balestrazzi, neu 'Dom', sydd yn rhedeg Station Cafe heddiw. Fe gymrodd yr awenau gan ei dad, Joe, yn 1965.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymgolli yn newyddion y dydd yn Station Cafe.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'British by birth, Welsh by the grace of God' - y neges balch ar y belt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer o'r caffis Eidalaidd gwreiddiol yn gwerthu amrywiaeth o fwyd, diod, sigar茅ts, losin a hufen i芒. Mae'r traddodiad yma'n parhau yng nghaffi Carpanini's yn Nhreorci.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dodrefn a decor trawiadol Carpanini's yn dod o'r 1960au. Cafodd y caffi ei sefydlu gan Ernesto Carpanini yn 1947 ac mae'n cael ei redeg heddiw gan ei blant - Irene, Pietro, Gianmarco a Francesco.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae siop sglodion Conti's, Tonypandy yn y teulu ers 1955, a Louis Conti yw'r ail genhedlaeth i'w rhedeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cegin gefn yn Conti's. Yn 么l Louis Conti, mae llai a llai o'r genhedlaeth iau yn dewis rhedeg y caffis teuluol Eidalaidd erbyn hyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar un adeg, roedd 'na dri sefydliad Forte's yn Abertawe, ond erbyn hyn y parlwr hufen i芒 yn y Mwmbwls yw'r unig un sydd ar 么l - wedi'i leoli mewn hen garej bren yn edrych allan i'r m么r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd caffi Kardomah yn Abertawe ei fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe ail-agorodd y caffi yn 1957 mewn lleoliad newydd, a Marcus Luporini yw'r rheolwr heddiw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r caffi Kardomah gwreiddiol yn enwog oherwydd y 'Kardomah Gang' - criw o ffrindiau oedd yn cwrdd yno'n rheolaidd. Roedd Dylan Thomas, Alfred Janes a Vernon Watkins yn rhan o'r 'gang'.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r addurniadau'n dod o 1957, o'r cyfnod pan gafodd y caffi ei ail-agor yn ei leoliad presennol ar Stryd Portland.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ges i fy magu yn ymweld 芒'r Kardomah". Mae nifer o'r cwsmeriaid yn mwynhau awyrgylch cyfarwydd a chysurus yr hen gaffis Eidalaidd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Fi yw'r genhedlaeth olaf" - Stella Jenkins sy'n rhedeg siop losin Segadelli's yn Y Creunant, Cwm Dulais. Fe agorodd ei thad, Ernesto Segadelli, y siop yn 1921.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gobaith i'r dyfodol. Mae'r genhedlaeth ifanc yn cymryd yr awenau yng nghaffi Prince's ym Mhontypridd. Dyma William Gambarini, aelod o'r drydedd genhedlaeth i redeg y caffi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Prince's ei agor yn 1948 gan daid William, Dominic Gambarini a'i wraig Glenys, ac mae'r Art Deco gwreiddiol wedi ei gadw fel yr oedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r 'hatch' hen ffasiwn rhwng y gegin a'r lle bwyd hefyd wedi ei gadw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r potyn d诺r poeth copr traddodiadol yn cael lle amlwg yng nghanol y caffi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymweld 芒 chaffi prysur Prince's yn achlysur pwysig i nifer o'r cwsmeriaid ffyddlon.

Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: