大象传媒

Pennaeth gwasanaethau oedolion Powys 'eisiau gadael'

  • Cyhoeddwyd
cyngor powys

Mae 大象传媒 Cymru ar ddeall fod un o brif swyddogion adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Powys wedi dweud ei bod hi eisiau gadael ei swydd.

Dywedodd un cynghorydd blaenllaw fod trafodaethau'n cael eu cynnal wedi i Louise Barry "fynegi ei bwriad" i gamu o'r neilltu fel pennaeth gwasanaethau oedolion.

Daw hynny yn dilyn adroddiad yr wythnos ddiwethaf oedd yn feirniadol iawn o wasanaethau plant yr awdurdod.

Yn 么l y cyngor, dydyn nhw ddim yn gwneud sylw ar gytundebau cyflogaeth unigolion.

'Mewn llanast'

Cafodd Cyngor Powys eu rhybuddio y byddai Llywodraeth Cymru'n cymryd drosodd eu gwasanaethau cymdeithasol os nad yw'r adran yn gwella digon erbyn diwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth gweinidogion fygwth ymyrryd yr wythnos diwethaf wedi i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) feirniadu eu gwasanaethau plant.

Roedd archwiliad gafodd ei gynnal ym mis Gorffennaf wedi canfod fod plant bregus yn y sir mewn perygl.

Bydd CSSIW yn dychwelyd i Bowys i archwilio'r gwasanaethau i oedolion yn fuan, ond does dim dyddiau wedi ei bennu ar gyfer hynny eto.

Dywedodd yn ffynhonnell o fewn llywodraeth leol fod yr "holl adran mewn llanast".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth arweinydd y cyngor Rosemarie Harris ymddiheuro yn ystod cyfarfod o'r awdurdod

Byddai colli un o'r uwch swyddogion yn golygu swydd wag arall, a hynny yn ystod cyfnod allweddol.

Ar hyn o bryd aelodau staff dros dro sydd yn gwneud swyddi'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a'r pennaeth gwasanaethau plant.

Fe wnaeth y cyn-bennaeth gwasanaethau plant, Carolann James, adael ym mis Gorffennaf wedi 11 mis yn y swydd.

Mae prif weithredwr y sir, Jeremy Patterson, hefyd yn absennol gyda salwch ar hyn o bryd.

'Trafodaethau pellach'

Dywedodd Stephen Hayes, y cynghorydd sydd yn gyfrifol am ofal cymdeithasol i oedolion, ei fod wedi clywed am benderfyniad Ms Barry ddydd Mawrth.

"Allai ddim cadarnhau beth yw'r sefyllfa derfynol," meddai. "Mae hi wedi cadarnhau ei bwriad [i adael].

"Ond mae trafodaethau pellach yn digwydd gyda hi. Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud ei bod wedi ymddiswyddo."

Dywedodd Mr Hayes fod Ms Barry yn "broffesiynol a galluog iawn" a'i fod yn "awyddus iawn i'w gweld hi'n aros os yn bosib".

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwrthod gwneud sylw, ond dywedodd llefarydd fod cyfnod rhybudd safonol o dri mis ar gyfer penaethiaid gwasanaethau.

Dywedodd y byddai "cyfweliad gadael" yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses "er mwyn canfod pam oedden nhw eisiau gadael".