大象传媒

Ffermwr ar ben ei dennyn wedi ymosodiadau c诺n ar ddefaid

  • Cyhoeddwyd
defaid

Mae ffermwr ym Mro Morgannwg yn ystyried rhoi'r gorau i ffermio gan ei fod yn colli cymaint o ddefaid i ymosodiadau gan g诺n.

Ben Jones yw'r cyntaf o'i deulu i fentro i fyd ffermio, ond eisoes eleni mae wedi colli 18 o ddefaid a gweld 15 arall yn cael eu hanafu mewn ymosodiadau.

Yn ystod y trydydd ymosodiad ar 18 Hydref, fe welodd gi du yn ymosod ar ei ddefaid, a gyrrodd ei gar ato a'i ddychryn i ffwrdd.

Dywedodd Mr Jones nad oedd unrhyw un gyda'r ci, ac mae'n dyfalu mai anifail anwes gafodd ei adael allan o'r cartref oedd e.

Fe gostiodd yr ymosodiad cyntaf 拢1,800 iddo oherwydd gwerth y stoc a laddwyd, costau milfeddyg a chostau difa'r cyrff.

  • Gorffennaf 2017 - Chwe dafad wedi'u lladd ac wyth wedi'u hanafu;

  • 4 Hydref 2017 - Naw dafad wedi'u lladd a phedair wedi'u hanafu'n ddifrifol;

  • 18 Hydref 2017 - Tair dafad wedi'u lladd a thair arall wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Yn gynharach eleni fe wnaeth aelod o d卯m arbennig Heddlu'r Gogledd ddweud nad oedd gan blismyn ddigon o bwerau yn y maes, gan nad ydyn nhw'n medru mynd i gartrefi i n么l c诺n sydd wedi bod yn ymosod fel hyn.

Yng ngogledd Cymru mae dros 2,000 o ddefaid wedi eu lladd mewn 500 o ddigwyddiadau gwahanol dros y pedair blynedd diwethaf.

Yn y cyfamser, mae Ben Jones yn poeni am ei ddyfodol fel ffermwr.

Dywedodd mai dim ond tua 100 o ddefaid sydd ganddo, a bod y sefyllfa mor ddrwg bellach fel ei fod yn ystyried rhoi'r gorau i'r gwaith.