Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taclo unigrwydd
Yn 么l rhaglen Taro'r Post ar 大象传媒 Radio Cymru ar ddydd Llun, 6 Tachwedd mae dros hanner rhieni Cymru yn diodde' o unigrwydd. Bu Garry Owen yn trafod effaith unigrwydd ar iechyd pobl.
Aeth i ymweld 芒 gr诺p arbennig o bobl yn ardal Y Fenni i sgwrsio 芒'r rhai sy'n cyfarfod yno fel rhan o gynllun 'Ffrind i Mi'. Dyma gynllun sy'n ceisio ymateb i'r niferoedd o bobl yn yr ardal oedd yn mynd at y meddyg teulu am eu bod nhw'n teimlo'n unig.
Yn 么l Rhiannon Davies, Swyddog Iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd hefyd yn gwirfoddoli ar y cynllun trwy gynnal clwb Scrabble unwaith yr wythnos yn Y Fenni, nod y prosiect yw ceisio dod 芒 phobl at ei gilydd i chwarae gemau ac i gymdeithasu dros baned a theisen.
"Mae'n holl bwysig i bobl gael y cyfle i gymdeithasu. Gallwch chi fod 芒 llond t欧 o bobl yn byw gyda chi ond gallwch chi dal fod yn unig.
"Bydde dim un [o'r bobl sy'n dod i'r clwb Scrabble] yn cyfadde' eu bod nhw'n unig, ond mae nifer ohonyn nhw yn byw ar ben eu hunain, dydyn nhw ddim yn gweld pobl o ddydd i ddydd a wedyn maen nhw wrth eu boddau yn dod i rywbeth fel hyn, mae mor bwysig dwi'n meddwl."
"Fel chi'n dod i 'nabod y bobl, maen nhw'n rhannu fwy 'da chi a byddwch chi'n gallu sylwi os nad ydyn nhw'n hwylus a gallwn ni sicrhau a ydyn nhw'n cael gofal. 'Sdim dal pwy sy'n troi lan yma, weithie mae mamau ifanc yn dod i gael paned a chlonc, a mae'n bwysig yn yr ardal 'ma i gefnogi'r iaith a rhoi'r cyfle i bobl i siarad yr iaith.
"Mae'r bobl sy'n dod i gysylltiad 芒 Ffrind i Mi, maen nhw fel pobl gwahanol, maen nhw'n gwenu, yn siarad mwy, a chi'n gallu gweld y gwahaniaeth yn syth a mae'n 'neud daioni iddyn nhw, a mae'n 'neud daioni i fi hefyd achos chi'n teimlo eich bod chi'n rhoi rhywbeth n么l i'r gymuned hefyd," ychwanegodd Rhiannon Davies.
Un sydd wedi elwa o ddod i'r clwb yn Y Fenni ydy Norman. Mae'n byw ar ei ben ei hun, meddai, ac mae dod allan yn help mawr iddo.
"Mae aros yn fy nh欧 drwy'r dydd, heb siarad 芒 unrhywun, mae dipyn bach yn ddiflas. Dwi'n gwneud rhywbeth bron bob dydd, mae'n bwysig iawn. Dwi'n lwcus iawn fy mod i'n gallu gyrru, achos does dim bysiau yn fy mhentre', a heb gar byswn i yn isolated.
"Amser maith yn 么l roedd pawb yn byw gyda'i gilydd. Nawr mae pawb yn gweithio, yn gadael y t欧 yn gynnar yn y bore ac yn dod n么l yn hwyr a mae rhieni yn byw yn rhywle arall yn y byd a weithie mae'n amhosib i gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu."
Dywedodd Dr Ffion Williams, ar ran meddygon teulu ar raglen Taro'r Post bod tua 20% o bobl sy'n mynd at y meddyg teulu yn diodde' o broblemau cymdeithasol, ac mae unigrwydd yn rhan o hynny.
"Mae'n si诺r ei fod yn beth anodd i bobl ddweud [eu bod nhw yn unig] ... a 'falla eu bod nhw'n dod i mewn efo problemau meddygol ond pan mae rhywun yn gofyn yn ofalus iddyn nhw beth sy'n mynd ymlaen, am yr unigrwydd maen nhw wedi dod i mewn a dim y broblem feddygol.
"Y peth newydd o fewn y gwasanaeth meddygon teulu r诺an ydy bod ni'n sb茂o am ffyrdd i 'neud prescripsiynu cymdeithasol, a wedyn 'dan ni fel meddygon teulu, trwy gweithwyr Linc, yn dweud wrth bobl beth sy' allan yna i helpu efo'i problemau cymdeithasol nhw."