Ryland Teifi a theulu tair iaith
- Cyhoeddwyd
Mae Ryland Teifi yn un o actorion amlyca'r Gymraeg, wedi ymddangos mewn cyfresi fel 35 Diwrnod, ffilm Y Llyfrgell ac Albi a Noa, ffilm Nadolig S4C y llynedd. Mae hefyd yn gerddor amryddawn.
Ond yn Iwerddon y mae ei gartre' ers y chwe blynedd ddiwetha' gyda'i wraig R贸is铆n a'u tair merch. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r actor a'r cerddor am fyw yn Iwerddon, teithio'n 么l i Gymru a magu teulu mewn tair iaith:
Fe fuon ni'n byw yn Y Barri am ddeg mlynedd a chael tair o ferched, Lowri, Cifa a Myfi a roedden nhw'n mynd i Ysgol Sant Curig. Tua chwe blynedd yn 么l, symudon ni n么l i fan hyn.
Ry'n ni'n byw mewn ardal Gaeltacht, An Rinn, yn Swydd Waterford yn ne ddwyrain Iwerddon. O'r ardal yma oedd mam R贸is铆n yn dod, a buon ni'n dod 'ma am flynyddoedd yn yr haf, rhywle ni'n 'nabod a mae ffrindie a theulu yma'n barod, felly oedd e'n naturiol yn hynny o beth.
Pan oedd y merched yn mynd i'r ysgol gynradd fan hyn oedden nhw'n gorfod dysgu Gwyddeleg ac oedd R贸is铆n yn help mawr. Mae hi'n ieithydd, yn gallu siarad Almaeneg a Ffrangeg ac yn medru'r Wyddeleg a'r Gymraeg, ac mi roedd y ffaith bod y merched yn siarad Cymraeg hefyd yn help mawr iddyn nhw ddysgu Gwyddeleg. Fe wnaethon nhw ddysgu fe'n reit sydyn a dweud y gwir - lot yn well na'u tad!
Mae'r iaith yn cael ei thrin yn wahanol yn y Gaeltacht, lle ma' mesurau mewn lle i warchod yr iaith, felly mae'r ysgolion yn yr ardal yn gyfan gwbl trwy'r Wyddeleg. Mae Myfi yn yr ysgol gynradd Wyddeleg yn y pentre' ac mae Lowri a Cifa erbyn hyn yn mynd i ysgol uwchradd mwy cyffredinol yn y dre', ond maen nhw'n dysgu a siarad Gwyddeleg o hyd.
O'n ni wastad wedi meddwl y bydde fe'n neis i'r merched allu siarad yr iaith, am un rheswm ei fod yn famiaith i fam R贸is铆n. Mae'r merched nawr yn dysgu Almaeneg yn yr ysgol uwchradd a fi'n credu bod dysgu ieithoedd o bob math yn help i ddysgu ieithoedd eraill, ac yn fantais iddyn nhw.
Fyddech chi byth yn gallu deall Gwyddeleg o fod yn gallu siarad Cymraeg, ond mae lot o strwythur y brawddegau yn debyg. Pan o'n nhw'n gorfod ymdopi gyda'r Wyddeleg fel iaith newydd, doedd e ddim yn gymaint o naid iddyn nhw 芒 fydde fe i rywun oedd jyst yn siarad Saesneg, ac roedd y ffaith ei fod yn iaith Geltaidd arall yn help mawr.
Tair iaith ar yr aelwyd
Mae'r aelwyd yn dair-ieithog. Mae Myfi'n cael gwaith cartre' Gwyddeleg yn yr ysgol gynradd. Cymraeg yw'r iaith rhwng fi a'r merched, achos dyna sy'n naturiol a wnaeth hwnna ddim newid wrth symud yma - dyna fy mamiaith i a dwi eisiau i hynny barhau iddyn nhw hefyd. Dyna beth yw cryfder iaith, ei fod yn rhywbeth emosiynol rhwng pobl. Beth sy'n rhyfedd yw fi'n siarad Saesneg 芒 R贸is铆n, achos dyna'r iaith wnes i siarad pan gwrddes i 芒 hi, ac mae'n anodd newid.
Gall unrhyw iaith fodoli ar yr aelwyd, ond tu allan i hynny mae'n anoddach, ond dwi byth wedi gweld bod 'na broblem i gynnal y Gymraeg yma. Mae'n anoddach gyda Myfi, y ferch ifanca', achos ei bod hi wedi dod 'ma pan oedd hi'n ddwy oed, a mae hynny'n fwy o sialens. Dwi'n gorfod addasu tamed bach a defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg i bontio beth mae'n gallu deall. Wedyn yn raddol, yn enwedig wrth siarad a'i mam-gu a thad-cu, mae'n ymarfer hynny. Mae'n rhywbeth naturiol i ni newid ieithoedd.
Cynnal iaith ar y cyfryngau
O achos gwefannau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, mae'r merched yn siarad lot gyda'u cefndryd yng Nghymru a hefyd eu ffrindiau o'r Barri ac yn aml iawn maen nhw'n gw'bod lot o beth sy'n mynd ymlaen yna. Mae'r byd wedi newid yn hynny o beth, mae wedi mynd lot yn llai ac mewn ffordd mae'n rhwyddach i gynnal iaith, hyd yn oed os chi digwydd bod mewn gwlad arall.
Pontio'r gwledydd
Rwy'n ffilmio cyfres o Parch n么l yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn teithio n么l ac ymlaen ar y fferi, ac rydw i, R贸is铆n, a dau gefnder iddi, Michael ac Evan yn cynhyrchu sioe yma yn Iwerddon ers dwy flynedd, o'r enw Waters Wide. Ni'n defnyddio deunydd Gwyddelig, Cymreig ac Albanaidd, nid yn unig caneuon a dawns gwerin, ond hefyd ll锚n gwerin a barddoniaeth.
Tyfes i lan gyda chlwb y Cnapan yn Ffostrasol, ac oedd e wastad yn freuddwyd i fi bo' ni'n gallu creu rhyw fath o bont diwylliannol mewn rhywbeth fel hyn. Yn draddodiadol roedd grwpiau Gwyddelig 芒 phroffil byd eang, o ran cerddoriaeth draddodiadol, ac o'n i wastad mo'yn gweld Cymru yn rhan o'r ffrwd hynny. Trwy gwrdd 芒 phobl fan hyn yn Iwerddon, ni wedi 'neud cysylltiadau, a gobeithio bod hon y math o sioe gall deithio i wledydd gwahanol a'i gwneud hi mewn ieithoedd gwahanol.
'Sai byth yn teimlo 'mod i wedi gadael Cymru. Oes, mae 'na dd诺r rhyngddon ni, ond mae 'na lot o actorion yn byw yn Llundain a 'sai'n ei weld e'n wahanol o gwbl. Mewn ffordd, achos bo fi'n byw yn ne ddwyrain Iwerddon, dwi'n teimlo'n nes at orllewin Cymru na phan o'n i'n byw yn Y Barri.
Hefyd o ddiddordeb: