Cwest: Carl Sargeant wedi marw 'achos crogi'

Crogi oedd achos marwolaeth Carl Sargeant, yn 么l dyfarniad cychwynnol gan grwner.

Cafwyd hyd i gorff yr AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei gartref yng Nghei Connah ddydd Mawrth diwethaf, ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio gan y crwner, John Gittins, mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun.

Dywedodd fod ei wraig, Bernadette Sargeant, wedi dod o hyd iddo yn ystafell olchi eu cartref "ar y llawr wedi gweithred debygol o hunan niwed".

'Cyffwrdd yn amhriodol'

Roedd hi wedi gweld nodyn ar y drws yn llawysgrifen ei g诺r yn ei rhybuddio hi i beidio agor y drws ond i alw'r heddlu.

Ceisiodd aelodau o'r teulu achub bywyd Mr Sargeant cyn i barafeddygon gyrraedd.

Fe wnaethon nhw barhau 芒'r ymdrechion hynny am 20-30 munud cyn i'w farwolaeth gael ei chadarnhau.

Cafodd Mr Sargeant, oedd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, ei ddiswyddo yn dilyn honiadau ei fod wedi "cyffwrdd yn amhriodol" 芒 nifer o fenywod.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r crwner wedi dweud y bydd yn cysylltu gyda Carwyn Jones ac o bosib eraill o Lywodraeth Cymru i gael datganiadau

Roedd yn wynebu ymchwiliad gan ei blaid ac roedd wedi ei wahardd gan Blaid Lafur Cymru pan fu farw.

Mae'r crwner, John Gittins wedi dweud nad yw'n rhan o'i ddyletswyddau i brofi pam bod y farwolaeth wedi digwydd ac na fyddai'r cwest yn ystyried cywirdeb yr honiadau oedd wedi eu gwneud yn ei erbyn.

Ond dywedodd y byddai'r cwest yn ystyried ei stad o feddwl ar y pryd ac os oedd hi'n fwriad ganddo i ladd ei hun.

"O ganlyniad mae'n bosib y bydd digwyddiadau'r diwrnodau cyn ei farwolaeth yn berthnasol i'r ymchwiliad. Mae hi'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd."

Dim dyddiad eto

Ychwanegodd y bydd yn cysylltu gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones ac o bosib aelodau eraill o Lywodraeth Cymru yn yr wythnosau nesaf er mwyn cael datganiadau ysgrifenedig.

Dywedodd Mr Gittins y byddai yn ystyried yn ofalus "y camau gafodd eu cymryd gan y Cynulliad" wrth ystyried lles iechyd meddwl Carl Sargeant cyn iddo farw.

Yn 么l y crwner bydd yn ystyried y dystiolaeth yma cyn penderfynu a fydd yn argymell rheoleiddiad 28 er mwyn atal marwolaethau i'r dyfodol.

Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer cwest i'r dyfodol oherwydd y cyhoeddiad y bydd ymchwiliad annibynnol yn digwydd a does dim cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw eto.

Bydd y cwest meddai Mr Gittins yn "ymchwiliad llawn a theg o'r materion" a ddim yn "achos fydd yn cael ei gynnal drwy'r wasg, gwleidyddiaeth na phersonoliaethau."