Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢425,000 i 26 o brosiectau sy'n hybu'r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod 拢425,000 wedi'i glustnodi ar gyfer 26 o brosiectau sy'n ceisio hybu'r Gymraeg.
Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen o strategaeth Cymraeg 2050, sy'n ceisio sicrhau bydd miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050.
Bydd grantiau bach o 拢20,000 yn parhau er mwyn ceisio hyrwyddo defnydd dyddiol o'r iaith ac er mwyn hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.
Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n awyddus i bobl fod yn "hyderus" o ran defnyddio'r iaith Gymraeg.
Cynyddu'r gronfa
Mae'r prosiectau'n cynnwys grant i ddatblygu gwefan sy'n galluogi gwirfoddolwyr Cymraeg i greu cynnwys sain Cymraeg ar gyfer y rheiny sydd wedi colli eu golwg.
Bydd hefyd grant o 拢20,000 i ddatblygu technoleg fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad, fydd yn cael ei gynhyrchu gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Bydd nifer o fentrau iaith yn derbyn grantiau, a bydd 拢7,000 yn cael ei roi i gylchgrawn cerddoriaeth Y Selar i ddatblygu platfform digidol.
Bydd Ymddiriedolaeth B锚l-droed Cymru hefyd yn derbyn grant o 拢20,000 er mwyn hybu hyfforddi p锚l-droed ar lawr gwlad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn wreiddiol 拢300,000 oedd ar gael, ond oherwydd safon y ceisiadau ddaeth i law, penderfynodd y llywodraeth gynyddu'r gronfa.
'Her sylweddol'
Ychwanegodd Ms Morgan: "Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
"Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.
"Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno 芒 ni wrth i ni fwrw ymlaen 芒'r dasg hon."