Pryder ffermwyr ifanc am golli nawdd

Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn poeni y bydd yn rhaid iddyn nhw dorri ar eu gweithgareddau os byddan nhw'n colli grant o 拢36,000 maen nhw'n ei gael gan Gyngor Gwynedd, 拢20,000 i Feirionnydd ac 拢16,000 i Eryri.

Mae'r cyngor yn ymgynghori ar hyn o bryd ar newidiadau posib i'w gwasanaeth ieuenctid i'w foderneiddio ac i arbed arian.

Mae'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor yngl欧n 芒 dyfodol y gwasanaeth ieuenctid yn golygu y byddai'r ffermwyr ifanc yn colli'r grant.

Dywed arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, fod yn rhaid arbed arian a'i fod yn ffyddiog y gwnaiff y ffermwyr ifanc godi i'r her o ddarganfod arian newydd.

Dros y penwythnos bydd ffermwyr ifanc o bob rhan o Gymru yn heidio am Landudno ar gyfer ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol flynyddol ond mae 'na bryder ym Meirionnydd ac Eryri am y dyfodol os byddan nhw'n colli'r nawdd.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dafydd Jones fod mudiad y Ffermwyr Ifanc yn bryderus iawn

Dywedodd Dafydd Jones Cadeirydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc Meirionnydd:

"'De ni'n bryderus iawn i'r dyfodol... mae o'n fudiad unigryw iawn sy'n creu lot fawr o gyfleoedd i bobol ifanc. Mae 'na gannoedd a miloedd wedi bod drwyddo fo yn y sir ac wedi elwa'n fawr."

"Mae'n grant ni yn mynd at gyflogi trefnydd sirol ac i gostau swyddfa a rhoi digwyddiadau ymlaen felly mae cael ansefydlogrwydd yn unrhyw un o'r rhain yn mynd i gael effaith mawr ar be de ni'n medru darparu i bobol ifanc.

"Er enghraifft efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried torri oriau'r trefnydd neu efallai peidio cael trefnydd o gwbl os na fyddwn ni'n gallu fforddio cael un.

"Mae ganddo ni galendr llawn drwy'r flwyddyn a pe base ni'n gorfod trawsnewid popeth byddai'n andros o golled i bobol ifanc os na fydde pethe'n cael eu darparu iddyn nhw."

Disgrifiad o'r llun, Mynnodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn nad oedd gan Gyngor Gwynedd ddewis ond ystyried torri'r nawdd

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn nad oes gan y cyngor ddewis ond ystyried torri nawdd y ffermwyr ifanc fel rhan o gynllun i arbed 拢270,000.

"Tase genno ni bres mi fyddem ni'n falch iawn i barhau i roi cefnogaeth.

"Hefyd gan fod yr arian yn brinnach 'de ni'n gorfod targedu'r arian sydd ganddo ni yn llawer iawn mwy gofalus, yn wir de ni'n bwriadu newid y gwasanaeth fel bod ni'n cynnig mwy o gefnogaeth i ystod ehangach o bobl ifanc nag o'r blaen, mi fyddwn yn estyn allan at bobol ifanc hyd at 25 oed."

"Mae'n her iddyn nhw hefyd a dwi'n nabod y ffermwyr ifanc yn bur dda a dwi'n meddwl y gallan nhw godi i'r her honno a dwi'n meddwl bod 'na gyfleoedd iddyn nhw... nid yn unig i geisio ariannu swydd eu hunain os mynnan nhw ond hefyd de ni'n agored i unrhyw gynigion o sut medran nhw helpu i ddarparu cefnogaeth i'n gwasanaeth ieuenctid ni felly."

Fe fydd proses ymgynghori Cyngor Gwynedd ar y newidiadau posib i'w gwasanaeth ieuenctid yn para tan 22 Rhagfyr.