Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Casglu biniau bob pedair wythnos?
Gallai Conwy fod y cyngor sir gyntaf yng Nghymru i gyflwyno casgliadau biniau sbwriel bob pedair wythnos.
Mae'r drefn wedi ei threialu mewn rhannau o'r sir ers blwyddyn.
Fe ddywed swyddogion fod hynny wedi bod yn llwyddiant ac maen nhw'n argymell newid y drefn yn barhaol i'r sir gyfan.
Bydd cynghorwyr yn trafod yr argymhelliad yn ddiweddarach y mis.
Os fydd y drefn yn newid, bydd casgliadau deunydd ailgylchu yn dal i ddigwydd yn wythnosol.
Mwy o ailgylchu - llai o sbwriel
Yn 么l adroddiad y swyddogion: "Cafodd y drefn o gasgliadau bob pedair wythnos ei chyflwyno o Medi/Hydref 2016 mewn 10,900 o gartrefi ar draws y sir.
"Ar yr un pryd cafodd casgliadau bob tair wythnos eu cyflwyno fel y drefn arferol i bob cartref arall.
"Mae newid o gasgliadau bob pythefnos i rai llai aml wedi arwain at fwy o ailgylchu a llai o sbwriel yng Nghonwy.
"Mewn ardaloedd gyda chasgliadau bob tair wythnos fe welwyd cynnydd o 5% mewn ailgylchu o gymharu 芒 14% mewn ardaloedd gyda chasgliadau bob pedair wythnos.
"Fe wnaeth cartrefi yn yr ardaloedd pedair wythnos leihau faint o sbwriel oedd yn eu biniau o 31% o gymharu ag 20% mewn ardaloedd tair wythnosol."
Hyd yn oed os fydd cynghorwyr yn cytuno gyda'r argymhelliad ddydd Mercher, bydd rhaid i gyfarfodydd pellach o'r cyngor ar 20 Tachwedd a 5 Rhagfyr gymeradwyo unrhyw newid polisi.