Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfarfod i drafod prynu'r Boncath Inn yn Sir Benfro
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Roedd yna dros 80 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod yn Neuadd Boncath nos Fercher i drafod cynlluniau posib i brynu'r dafarn leol, y Boncath Inn, sydd wedi bod ar gau ers dros flwyddyn.
Clywodd y cyfarfod gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Tafarn Sinc, sydd wedi llwyddo i godi dros 拢300,000 i brynu eu tafarn leol.
Dywedodd Asiant Tai, oedd yn cynrychioli perchennog y dafarn, bod yna drafodaethau ar y gweill i werthu rhan o faes parcio'r Boncath Inn i brynwr.
Fe ddywedodd nifer o bobl leol wrth y cyfarfod ei bod hi'n hanfodol bod y dafarn a'r maes parcio yn cael eu prynu ar y cyd.
Mae'r ddau ar y farchnad am ychydig dros 拢250,000.
Cytunodd y rheini oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn unfrydol i sefydlu gweithgor i graffu ar faterion a godwyd, ac i benderfynu a oes gwerth bwrw 'mlaen 芒'r cynlluniau i brynu'r dafarn.