Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwedd y daith ar 么l codi dros 拢1m i Blant Mewn Angen
Mae cwpl o Lanbedr Pont Steffan yn dweud mai eleni fydd eu blwyddyn olaf yn codi arian tuag at Blant Mewn Angen - a hynny ar 么l casglu dros 拢1m i'r elusen.
Ers 35 mlynedd mae Beti a Goronwy Evans wedi bod yn hel arian yn flynyddol ar gyfer yr elusen, gan gydlynu ymdrechion ar draws Ceredigion, Sir G芒r a Sir Benfro.
Ychydig flynyddoedd yn 么l fe lwyddon nhw i groesi'r trothwy nodedig, gan gasglu dros 拢1m mewn rhoddion.
Maen nhw nawr yn gobeithio canfod gwirfoddolwyr eraill yn yr ardal fydd yn gallu parhau 芒'r gwaith.
'Rhan o fywyd y cylch'
"Byddai'n gweld ishe fe," meddai Goronwy Evans wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Ond beth sy'n bwysig yw'r ymateb sydd wedi bod. Mae cymaint o bobl ni wedi'u cynrychioli wedi cael arian i gynnal plant dan anfantais, ac mae cymaint wedi dod 'n么l wrth roi."
Ychwanegodd: "Mae e'n rhan o fywyd y cylch, achos bod ni 'di bod ynghlwm 芒 fe ers 35 mlynedd.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd rhywun yn cymryd e arno, mae'n bryd cael lleisiau newydd."
Dydd Gwener yw diwrnod Ap锚l Plant Mewn Angen, ac yn y cyfamser mae ysgolion, clybiau ac unigolion ar draws Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer eu heriau eu hunain i godi arian.
Un o'r rheiny yw cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, sydd wedi bod yn ceisio cwblhau taith feicio o gwmpas Cymru.
Yn ystod yr wythnos mae'r darlledwr wedi bod yn ceisio ymweld 芒 60 o ysgolion gwahanol, a bydd yn cwblhau'r her ddydd Gwener gyda'r cymal olaf o Aberdaron i Fangor.
Llynedd cafodd dros 拢2.5m ei godi yng Nghymru ar y noson - bron i filiwn yn fwy nag yn 2015 - gyda'r cyfanswm ar draws y DU yn cyrraedd dros 拢45m.