Gwobr Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru: Gareth Bale
- Cyhoeddwyd
Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.
Y p锚l-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Si么n Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.
Mae'r p锚l-droediwr Gareth Bale wedi chwarae drwy boen eleni, a daeth o fewn trwch blewyn i gyrraedd Cwpan y Byd gyda Chymru, a helpodd ei glwb Real Madrid i gipio'r dwbl drwy ennill Cynghrair y Pencampwyr a La Liga.
Cafodd y chwaraewr 28 oed lawdriniaeth ar ei ff锚r ym mis Tachwedd 2016, olygodd na allai chwarae am dri mis, ond daeth yn ei 么l i helpu Cymru gael g锚m gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn g锚m ragbrofol Cwpan y Byd ym mis Mawrth.
Fe wnaeth Bale ymddangos yn ei 100fed g锚m La Liga i Real ym mis Ebrill 2017 wrth iddyn nhw ennill eu 33ain teitl La Liga, yna rhwygodd groth ei goes wedi 10 o gemau a methodd 芒 chwarae am chwe wythnos arall.
Roedd amheuaeth a allai chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas enedigol, Caerdydd, ond roedd Bale yn ddigon ffit i gael ei enwi ymysg yr eilyddion a chwaraeodd am yr 13 munud olaf wrth i Real guro Juventus o 4-1.
Ar 么l gwella dros yr haf, chwaraeodd Bale ym muddugoliaethau Cymru yn erbyn Awstria a Moldofa ym mis Medi, olygai bod Cymru yn y ras o hyd i gyrraedd Cwpan y Byd.
Ond daeth anafiadau i'w boeni eto, gan olygu nad oedd ar gael ar gyfer dwy g锚m ragbrofol olaf Cymru yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon - ac enillodd y Weriniaeth yng Nghaerdydd i roi diwedd ar obeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol yn Rwsia.
Magwyd Bale yng Nghaerdydd a mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Newydd cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd - oedd hefyd yn hen ysgol i gapten Y Llewod, Sam Warburton ac un arall o'r enwebiadau ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru 2017, y seiclwr Geraint Thomas - ac yna ymunodd fel ysgolor 芒 Chlwb P锚l-droed Southampton.
Yn Rhagfyr 2006 enillodd Bale Wobr Carwyn James fel Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn Cymru, ac fe gafodd ei enwi yn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y Gynghrair B锚l-droed 2006-07.
Yn 2010 ef hefyd oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.
Gweddill y rhestr fer:
Cafodd Bale ei gap cyntaf dros Gymru mewn buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mai 2006 yn 16 mlwydd a 315 diwrnod oed, ac ef oedd chwaraewr rhyngwladol ieuengaf Cymru nes i Harry Wilson gael ei gapio yn 2013.
Bale o hyd yw'r ieuengaf erioed i sgorio dros Gymru, wedi iddo grymanu cic rydd i'r rhwyd wrth i Gymru golli o 5-1 yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd ym mis Hydref ar 么l ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf.
Arwyddodd i Tottenham Hotspur ym mis Mai 2007 am 拢5m ac ar 么l cyfnod sylweddol o weithio ar sefydlu ei hun fel aelod cyson o'r t卯m cyntaf, cafodd ei symud o'i safle cyfarwydd fel cefnwr chwith i safle mwy ymosodol ar yr asgell.
Ffynnodd Bale yn ei r么l newydd a llifodd y goliau tra bod ei g锚m yn gyffredinol yn parhau i wella, ac achosodd hynny i Real Madrid gynnig ffi o 拢85.3m amdano ar 1 Medi 2013, oedd yn record byd.
Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.
Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon 大象传媒 Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.
Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2017