大象传媒

Gwobr Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru: Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.

Y p锚l-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Si么n Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Coronodd y seiclwr Geraint Thomas y flwyddyn 2017 drwy fod y Cymro cyntaf erioed i arwain y Tour de France a gwisgo'r crys melyn enwog.

Dechreuodd y g诺r 31 oed y flwyddyn drwy fod y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill Taith yr Alpau, cyn arwain Team Sky yn y Giro d'Italia - un o'r tair Grand Tour ynghyd 芒'r Tour de France a'r Vuelta a Espana.

Mis Gorffennaf oedd mis y Tour de France, ac roedd Thomas eto yn rhan o Team Sky o dan arweinydd y t卯m, Chris Froome.

Enillodd Thomas y ras yn erbyn y cloc yn Dusseldorf ar y diwrnod agoriadol gan arwain y ras, a daliodd ei afael ar y crys melyn am dri chymal arall cyn i Froome gamu i'r blaen.

Roedd y Cymro yn dal yn ail cadarn, ac roedd llawer yn meddwl y gallai cryfder cynnar Thomas arwain at le ar y podiwm ar y llinell derfyn ym Mharis.

Ond wrth seiclo lawr allt ar y nawfed cymal, torrodd Thomas bont ei ysgwydd ar 么l cael ei daro oddi ar ei feic gan Rafal Majka o Wlad Pwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf i wisgo crys melyn y Tour de France

Aeth Thomas i Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd, oedd hefyd yn hen ysgol i gapten Y Llewod, Sam Warburton ac un arall sy'n cael ei enwebu ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru 2017, y p锚l-droediwr Gareth Bale.

Daeth talent Thomas i sylw'r cyhoedd pan enillodd Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd a Paris-Roubaix yn 2004, ac fe wnaeth y llwyddiannau hynny arwain at ennill Gwobr Ieuenctid Carwyn James yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru 2004.

Fe wnaeth Thomas gystadlu yn y Tour de France am y tro cyntaf yn 2007 - pan oedd y seiclwr ieuengaf ar y Tour a'r Cymro cyntaf i gymryd rhan ers 40 mlynedd - ac ar y trac bu'n fuddugol ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Mallorca, Sbaen, fel rhan o garfan ymlid t卯m Prydain.

Blwyddyn yn ddiweddarach fe roddodd rasio ffordd i'r neilltu er mwyn helpu pedwarawd ymlid t卯m Prydain ennill dau aur ar y trac ym Mhencampwriaethau'r Byd 2008 a Gemau Olympaidd Beijing.

Derbyniodd Thomas MBE yn 2009 ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ac enillodd deitl Ras Ffordd Genedlaethol Prydain yn 2010.

Gweddill y rhestr fer:

Ym mis Mai 2011 dathlodd ei fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf ar y ffordd yn y Tour of Bavaria a gwisgodd y crys gwyn fel y seiclwr ifanc gorau am saith cymal yn y Tour de France y flwyddyn honno.

Yn 2012 enillodd Prydain aur arall ym Mhencampwriaethau'r Byd a'r Gemau Olympaidd am ymlid t卯m, ond yn dilyn hynny rhoddodd Thomas fwy o bwyslais ar rasio ffordd.

Yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 enillodd Thomas fedal efydd yn y ras yn erbyn y cloc ac aur yn y ras ffordd - llwyddiannau arweiniodd at ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru yn 2014.

Y flwyddyn ganlynol enillodd Thomas ei deitl Volta ao Algarve cyntaf ac yna ef oedd y seiclwr cyntaf o Brydain i ennill ras Harelbeke E3 yng Ngwlad Belg, cyn helpu Froome i ennill y Tour de France.

Daliodd Thomas ei afael ar deitl Volta ao Algarve yn 2016, a dilynodd hynny drwy ennill ras Paris-Nice a helpu Froome i sicrhau ei drydydd teitl Tour de France.

Yng Ngemau Olympaidd Rio cafodd ddamwain yn y ras ffordd wrth geisio cipio medal, gan orffen yn 11eg, a daeth yn nawfed yn y ras yn erbyn y cloc.

Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon 大象传媒 Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.