Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Biniau Conwy: Pwyllgor cyngor yn gwrthod casgliadau misol
Mae aelodau o bwyllgor ar Gyngor Conwy wedi pleidleisio yn erbyn cyflwyno casgliadau biniau bob pedair wythnos ar draws y sir.
Roedd Pwyllgor Economi a Chraffu o blaid cadw casgliadau bob tair wythnos.
Am gyfnod prawf, roedd oddeutu 10,000 o gartrefi'r sir yn cael gwagio biniau bob pedair wythnos am flwyddyn.
Dywedodd adroddiad gan swyddogion yr awdurdod fod hyn wedi arwain at gynyddu ailgylchu a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn yr ardaloedd hynny.
Ond roedd sawl un o aelodau'r pwyllgor yn bryderus y byddai newid y drefn yn arwain at fwy o dipio sbwriel anghyfreithlon.
Dywedodd y cynghorydd Ronnie Hughes (Llafur): "Dydyn ni heb gael trefn ar bethau gyda chasgliadau bob tair wythnos eto heb s么n am bob pedair wythnos.
"Mae yna ddeg achos o dipio anghyfreithlon wedi digwydd yn fy ardal i yn Llandudno yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n poeni y bydd pethau'n gwaethygu os fyddwn ni ond yn casglu biniau du bob pedair wythnos."
Ond roedd y cynghorydd Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) yn anghydweld, gan fynnu: "Yr unig ffordd o gynyddu ailgylchu yw i'w gwneud hi'n anoddach i bobl i daflu pethau i ffwrdd."
Er gwaetha'r bleidlais nos Lun, cabinet Cyngor Conwy fydd 芒'r gair olaf ar y mater yn eu cyfarfod yn gynnar ym mis Rhagfyr.