Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw mewn digwyddiad yn ymwneud 芒 thractor
Mae dyn wedi marw ar 么l digwyddiad yn ymwneud 芒 thractor ger Boncath, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r safle gyferbyn a chwmni Caws Cenarth am 10:20 fore Mawrth yn dilyn adroddiad o argyfwng meddygol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi cludo'r dyn 61 oed i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ble bu farw'n ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran Caws Cenarth: "Fe allwn gadarnhau bod digwyddiad wedi bod ar dir gerllaw Caws Cenarth, doedd yr un o aelodau Caws Cenarth yn rhan o'r digwyddiad.
"Fe ddigwyddodd y digwyddiad ar Fferm Glyneithinog, sef y safle lle mae Caws Cenarth wedi ei leoli."
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad a'u bod yn cefnogi Heddlu Dyfed-Powys gyda'u hymchwiliad.