Ein hanthem genedlaethol mewn 200 gair

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Hen Wlad Fy Nhadau a God Save The Queen yn cael eu chwarae cyn bob g锚m ryngwladol b锚l-droed a rygbi yng Nghymru hyd at ganol yr 1970au

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod y geiriau - ond beth ydyn ni wir yn ei wybod am Hen Wlad Fy Nhadau?

Dyma geisio ateb yr her mewn 200 gair...

Pryd gafodd hi ei chyfansoddi a gan bwy?

Ym Mhontypridd yn 1856, er mai enw gwreiddiol yr emyn d么n oedd Glan Rhondda.

Evan James ysgrifennodd y geiriau a'i fab, James James, gyfansoddodd yr alaw.

Pryd gafodd hi ei pherfformio gyntaf?

Ym Maesteg yn 1856 gan ferch 16 oed o Bontypridd o'r enw Elisabeth John.

Cafodd hi ei recordio'n gyntaf gan Madge Breese a chwmni Gramophone yn Llundain yn 1899.

Ei chysylltiad 芒'r meysydd chwarae?

Mae'n debyg fod t卯m a chefnogwyr rygbi Cymru wedi canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn wynebu Seland Newydd yn 1905 mewn ymateb i'r haka.

Dyma'r tro cyntaf erioed i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn digwyddiad chwaraeon.

Disgrifiad o'r llun, Mae tair pennill ac un gytgan i Hen Wlad Fy Nhadau

Beth ydy'r neges?

Mae rhai yn honni mai cri ydy'r g芒n i frawd Evan James sydd wedi gadael Cymru am fywyd gwell yn America.

Mae'n atgoffa ei frawd o bwysigrwydd yr iaith i wlad falch sy'n enwog am ei chantorion, beirdd a'i rhyfelwyr gwladgarol.

Tra 尘么谤 yn fur, i'r bur hoff bau?!

O bosib llinell fwyaf cymhleth yr anthem.

Mae'r 尘么谤 yn wal, yn fur (treiglad o 'mur') i'r wlad bur (treiglad o 'pur') honno yr ydym ni mor hoff ohoni.

Yr hen air sy'n cael ei ddefnyddio yma am 'gwlad' ydy 'pau' (sy'n treiglo i 'bau').

Y cyfieithiad Saesneg ydy: "As long as the sea serves as a wall for this pure, dear land".

Hefyd o ddiddordeb