Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwestiynu benthyciad 拢3m Llywodraeth Cymru ar ffilm
Mae wedi dod i'r amlwg fod ffilm antur gafodd ei rhyddhau ar DVD y llynedd wedi derbyn 拢3.1m o arian gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y ffilm 'Take Down' yn un o'r rhai cyntaf i elwa o gynllun y llywodraeth oedd yn rhoi benthyciadau o 拢11.9m i deledu, ffilmiau a gemau fideo.
Hyd yma, dim ond 拢940,000 mae'r ffilm wedi'i dalu'n 么l o'r benthyciad.
Mae refeniw ar gyfer prosiectau wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi ynddyn nhw fod i dalu'r arian yn 么l dros gyfnod o sawl blwyddyn, a dywedodd y Llywodraeth ei bod hi'n "rhy gynnar" i fesur llwyddiant ar hyn o bryd.
'Adlewyrchiad t锚g'
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru yn dangos - allan o 11 prosiect a dderbyniodd arian, 拢3.6m mae'r llywodraeth wedi llwyddo i gael yn 么l.
Dim ond un prosiet, 'Their Finest' sydd wedi ad-dalu'r benthyciad yn llawn, er nad yw nifer o'r ffilmiau eraill wedi eu rhyddhau eto.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r ffigyrau yn "adlewyrchiad t锚g" o berfformiad y prosiectau, gyda disgwyl iddi gymryd degawd i gael yr arian yn 么l yn llawn.
Dywedodd Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg ar ddiwylliant, ei bod hi'n "iawn i drethdalwyr gwestiynu'r buddsoddiad" gafodd ei roi" i 'Take Down', ond dywedodd Tom Ware o Brifysgol De Cymru ei bod hi "rhy gynnar i unrhyw un feirniadu Llywodraeth Cymru."
Fe gafodd y ffilm, gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Pinewood, 拢3,144,000 o fenthyciad.
Mae'r ffilm gafodd ei ffilmio ar leoliad ar Ynys M么n ac yn stiwdios Pinewood yng Nghymru wedi talu 拢941,413 yn 么l.
Fe gafodd 拢1.5m o fenthyciad ei roi i ariannu drama deledu o'r enw 'The Collection', sydd wedi'i lleoli ym Mharis wedi'r rhyfel. Roedd 大象传媒 Worldwide hefyd yn rhan o'r cynhyrchiad.
Yn 么l y wybodaeth a gafwyd wedi'r cais rhydid gwybodaeth, 拢119,075 o'r arian sydd wedi'i dalu'n 么l hyd yma, ar 么l i'r gyfres gael ei rhyddhau ar blatfform Amazon Prime y llynedd.
Fe gafodd y ffilm gomedi Brydeinig 'Their Finest' 拢2m o fenthyciad. Mae wedi gwneud elw o 拢49,985 hyd yma, ar 么l rhoi 拢2.049m yn 么l.
Mae ffilm arall o'r enw 'Don't Knock Twice' wedi talu 拢469,415 yn 么l ar 么l derbyn benthyciad o 拢629,516. Fe gafodd y ffilm hefyd grant o 拢75,000 gan Gronfa Sgr卯n Cymru ar 么l cael ei rhyddhau yn y sinem芒u yn y DU ym mis Mawrth eleni.
Fe gafodd Cyllideb Buddsoddiad y Cyfryngau ei gyhoeddi yn 2014 fel rhan o gytundeb gyda Pinewood wnaeth hefyd sefydlu stiwdio yng Nghymru sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer rhai o'r cynyrchiadau.
Ffilmio yng Nghymru
Mae'r gyllideb sydd werth 拢30m yn cael ei reoli gan Pinewood, ond fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod y cwmni wedi tynnu allan o'r cytundeb ar ddechrau'r mis.
Mewn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, mae nifer o brosiectau sydd eisoes heb ei rhyddhau wedi derbyn benthyciadau.
Dydy ffigyrau'r cais rhyddid gwybodaeth ddim yn "adlewyrchiad teg" ar berfformiad y cynyrchiadau, yn 么l ymateb wnaeth ddod gyda'r cais.
Mae telerau'r gyllideb yn nodi bod angen i 50% o'r ffilmio gael ei gwblhau yng Nghymru, gyda 40% yn cael ei wario gyda chwmn茂au creadigol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ffigyrau'n dangos bod dros "拢100m wedi'i wario yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru."
Ychwanegodd: "Fel buddsoddwyr, rydym yn derbyn bod elfen o risg i bob cynhyrchiad, a bydd rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill.
"Mae'n bwysig sylwi fod y cynyrchiadau dan sylw yn amrywio o fod yn y dyddiau cyn cynhyrchu hyd at ddiwedd y broses o fod yn cael eu rhyddhau mewn sinem芒u rhyngwladol neu ar deledu.
"Bydd refeniw sy'n cael ei greu gan y prosiectau yn parhau i ddod 'n么l i Lywodraeth Cymru am sawl blwyddyn, ac mae ceisio beirniadu neu fesur llwyddiant yn y dyddiau cynnar yma yn gynamserol ac yn na茂f," meddai.
Gwrthododd Pinewood gais i wneud sylw.