大象传媒

Troseddwr rhyw yn erbyn plant wedi ffoi i Abaty Ynys B欧r

  • Cyhoeddwyd
Ynys B欧r

Mae wedi dod i'r amlwg fod dyn oedd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi ffoi i Abaty Ynys B欧r, gan aros yno am saith mlynedd i osgoi cyfiawnder.

Daw hyn wythnos ers i 大象传媒 Cymru adrodd bod mynach oedd yn bedoffilydd wedi bod yn byw ar yr ynys am bron i hanner canrif- o 1947, hyd at ei farwolaeth yn 1992.

Fe aeth Paul Ashton, o Sussex, ar y ffo yn 2004, wedi iddo fod a miloedd o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Pan ddaethpwyd o hyd iddo yn yr abaty yn 2011, fe gafodd mwy o ddelweddau anghyfreithlon eu darganfod ar ei gyfrifiadur ar yr ynys.

Cafodd Ashton - a fu'n defnyddio'r enw Robert Judd - ei arestio a'i ddwyn i gyfri ar 么l i ymwelydd 芒'r ynys ei adnabod oddi ar restr o droseddwyr Crimestoppers.

Galwad anhysbys

Daeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf bod chwech o ferched wedi cael iawndal gan yr abaty ar 么l iddynt gael eu cam-drin gan fynach ar Ynys Byr, yn y 1970au a'r 1980au.

Mae pum menyw arall hefyd wedi cyhuddo'r Tad Thaddeus Kotik, a fu farw ym 1992, o gam-drin rhywiol.

Ni ddaeth Heddlu Dyfed Powys i wybod am y troseddau hyd nes 2014, er bod y dioddefwyr wedi datgelu'r hyn a ddigwyddodd 24 mlynedd yn gynharach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe aeth Paul Ashton, o Sussex, ar y ffo yn 2004, wedi iddo fod a miloedd o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant

Mae'r abad presennol, y Brawd Daniel van Santvoort, wedi ymddiheuro nad oedd y cyhuddiadau wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu yn gynt.

Mae'r 大象传媒 ar ddeall bod Paul Ashton wedi cyrraedd Ynys B欧r fel gwestai yn 2004, ond ei fod wedi aros yno gan symud i mewn i dwr y cloc, sy'n edrych dros yr ynys.

Fe gafodd lety a bwyd gan y mynachod, a oedd yn ei adnabod fel Robert Judd.

Dywedodd ffynhonnell, "Pan gyrhaeddodd Robert, cynigiodd i helpu a gwneud ei hun yn anhepgor.

"Roedd yn gweithredu system rhyngrwyd a ff么n lloeren yr ynys, archebu llety ar-lein ac yn gwneud y cyfrifon, ac fe oedd yn gweithio yn yr ystafell bost."

Roedd Ashton wedi ei wahardd o'i gartref yn Bracklehurst, West Sussex ar 么l i Heddlu Sussex weithredu gwarant chwilio yn ei gartref, gan gymryd ei gyfrifiaduron yn 2004.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pum menyw arall wedi cyhuddo'r Tad Thaddeus Kotik, a fu farw ym 1992, o gam-drin rhywiol

Ym mis Gorffennaf 2011, gwnaed galwad anhysbys i Crimestoppers gan rywun a oedd wedi gweld wyneb Ashton ar y rhestr, ac fe'i arestiwyd ar yr ynys.

Dywedodd Heddlu Sussex, "Roeddent wedi adnabod y dyn yn y llun fel dyn oedd yn gweithio yn Ne Cymru, ond o dan enw gwahanol ... hysbyswyd yr heddlu a chafodd swyddogion lleol eu galw i'r ynys i'w arestio.

"Daethpwyd o hyd i fwy o offer cyfrifiadurol sy'n cynnwys delweddau anghyfreithlon."

Plediodd Ashton, a oedd yn 59 yn euog yn Llys y Goron Chichester i feddu ar dros 5,000 o ddelweddau anweddus o blant.

Cafodd ei garcharu am 30 mis ym mis Mawrth 2012, a'i roi ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gwahodd yr Abaty i roi sylwadau.