Osian Roberts yn datgan diddordeb yn swydd rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae is-reolwr Cymru, Osian Roberts wedi datgan ei ddiddordeb yn y swydd o reoli Cymru.
Dywedodd ar raglen Ar y Marc, 大象传媒 Radio Cymru "nad oes amheuaeth" ganddo y gallai "lwyddo yn y swydd."
Mae Cymru yn chwilio am reolwr newydd wedi i Chris Coleman ymddiswyddo er mwyn cymryd yr awennau yn Sunderland.
Ychwanegodd Mr Roberts: "Mae'r saith mlynedd diwethaf wedi bod y daith fwyaf anhygoel.
"Does genai ddim amheuaeth gallai lwyddo yn y swydd, allai ddim bod mwy profiadol ar y lefel rhyngwladol heb wneud y swydd.
"Dwi wedi bod yn rheolwr neu is reolwr ar dros 300 o gemau rhyngwladol bellach."
Dyma'r tro cyntaf ers ymadawiad Coleman i Osian Roberts ddatgan gwir ddiddordeb yn y swydd.
Yn ei gyfweliad cyntaf 芒'r 大象传媒 ers i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru, dywedodd Mr Roberts ei ddymuniad ef fyddai i Gymro olynu Coleman.
Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored.
Pwysleisiodd Mr Roberts ar raglen Ar y Marc ei fod yn credu bod "pharhad yn ffactor sy'n cael ei ddibrisio yn y g锚m a dwi'n credu dylai'r chwaraewyr gael y cyfle gorau posibl i lwyddo a chyrraedd Ewro 2020."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017