Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dr么n yn helpu gosod band-eang i gymuned Pontfadog
Pentref gwledig ger Llangollen yw un o'r cyntaf drwy'r byd i gael cymorth dr么n er mwyn sicrhau cysylltiad band-eang ffeibr tra chyflym.
Roedd rhaid defnyddio'r dr么n er mwyn cludo c锚bl ffeibr i 20 o dai a busnesau mewn rhan anghysbell o bentref Pontfadog yn Nyffryn Ceiriog.
Mae trigolion lleol yn cyfeirio at yr ardal fel yr 'Ochr Dywyll' oherwydd heriau daearyddol y dyffryn.
Roedd llethrau serth, coedwig drwchus ac afon yn gwneud hi'n amhosib i beirianwyr gloddio ffosydd traddodiadol ar gyfer gosod y c锚bl, ac yn eu hatal rhag darparu gwasanaeth di-wifr.
Ond ar 么l cysylltu'r c锚bl i'r dr么n gyda lein bysgota, roedd yn bosib gollwng y c锚bl o uchder o 100 metr ar ben coed, a'i lusgo gyda chymorth rhaff at yr 20 eiddo.
Prif beiriannydd cangen Openreach o gwmni BT, Andy Whale, wnaeth arwain y t卯m yn Nyffryn Ceiriog.
Dywedodd: "Fe wnaethon ni lwyddo i gysylltu'r pentref cyfan yng ngwaelod y dyffryn, ond roedd cyrraedd 20 o dai i fyny un ochr o'r dyffryn yn fwy o her.
"Petasai wedi bod yn bosib gosod y c锚bl yn y ffordd arferol, fe fyddai'r broses wedi cymryd dyddiau, ond y tro hyn fe gymrodd lai nag awr."
Ychwanegodd bod treialu technegau a thechnolegau newydd yn gyson yn helpu lleihau'r gost o ddarparu cysylltiadau band-eang ffeibr mewn mannau oedd mor anghysbell y bu'n amhosib cyfiawnhau'r gost a'r ymdrech hyd yn hyn.
'Byd o wahaniaeth'
Un o'r trigolion cyntaf ym Mhontfadog i elwa ydy Chris Devismes, sydd 芒 dau fab yn eu harddegau.
Dywedodd bod trafferthion yn codi'n aml pan roedd y tri'n ceisio mynd ar-lein ar yr un pryd, a bod y cysylltiad newydd wedi gwneud byd o wahaniaeth.
"Ro'n i'n arfer paratoi swper yn yr amser roedd hi'n cymryd i ddanfon ffeil. Erbyn hyn, mae ond yn cymryd eiliadau."
Dywedodd Ed Hunt, rheolwr rhanbarthol Openreach, bod Pontfadog "yn esiampl wych... o beidio rhoi'r ffidil yn y to".
"Hyd y gwyddwn, dydy'r dechneg yma heb ei defnyddio unrhyw le arall yn y byd i ddarparu cysylltiad band-eang sefydlog yn yr un amgylchiadau ac rydym am weld os fydd modd gwneud yr un peth mewn cymunedau eraill."