Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen 'gweithredu brys' ar addysg Powys
Mae angen "gweithredu ar frys" i fynd i'r afael a chyllidebau addysg yn Nghyngor Powys am ei fod yn "fygythiad" i'r awdurdod.
Dyma brif gasgliad adroddiad gan gr诺p sydd wedi bod yn edrych ar sut i ddelio gyda'r diffyg o 拢5.4m fydd yn y gyllideb addysg erbyn 2020.
Cafodd yr adroddiad, sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan y Gr诺p Archwilio Addysg a'r Gr诺p Archwilio, ei gyflwyno i gabinet Cyngor Powys.
Ynddo mae'n dweud fod y diffyg yn "fygythiad i'r cyngor" a bod y cyllido presennol yn "annigonol i gynnal yr ysgolion presennol a'r strwythurau staffio."
Dywedodd Cyngor Powys y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad cyn ymateb i'r Cabinet erbyn mis Ionawr 2018.
Osgoi penderfyniadau anodd
Ym mis Gorffennaf 2017 fod y cyngor yn wynebu her enfawr i sicrhau fod ysgolion a chynghorwyr yn derbyn gwell cymorth a chyngor er mwyn gallu rheoli cyllidebau ysgolion.
Yn yr adroddiad diweddaraf, oedd o flaen y cabinet dydd Mawrth, roedd y gr诺p yn honni bod ysgolion, yn enwedig rhai uwchradd, yn parhau i osgoi gwneud penderfyniadau anodd a chynllunio ar gyfer gostyngiad annochel yn nifer y disgyblion.
Roedd yna feirniadaeth hefyd o amharodrwydd y cyngor i ymyrryd yn uniongyrchol yng nghyllidebau ysgolion unigol, ac mae'r grwp hefyd yn nodi bod yna bryder nad oes gan swyddogion o fewn yr awdurdod y sgiliau na'r capasiti i ddatrys problemau chwaith.
Mae e hefyd yn dweud bod yna anghysondeb yng nghyfeiriad y polisi addysg a'r modd mae'n cael ei gwerthredu gan yr awdurdod.
Daw adroddiad y gr诺p archwilio ym Mhowys wrth i ystadegau gan raglen Wales Live, 大象传媒 Cymru, ddangos bod cyllidebau ysgolion yng Nghymru wedi gostwng tua 拢370 fesul disgybl mewn chwe blynedd.
Mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn mis Gorffennaf 2017, dangosodd ffigyrau fod y gwariant fesul disgybl ym Mhowys y 6ed uchaf yng Nghymru yn 2016/17 ond bod y cyfanswm sy'n cael ei rhoi i'r ysgolion gyda'r ail isaf yng Nghymru ar 78%.
O ganlyniad i hynny mae'r cyllideb fesul disgybl y 5ed isaf yng Nghymru: y cyfartaledd i ysgolion Cynradd ydy 拢4,000 a 拢4,800 i ysgolion Uwchradd.
Yn 么l ffigyrau gan Lywodraeth Cymru, mae disgwyl gostyngiad o 1,770 yn nifer y plant rhwng 3-19 oed sy'n byw ym Mhowys erbyn 2030.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys y bydd y cynghorydd sydd a chyfrifoldeb dros addysg yn y cabinet, Myfanwy Alexander, yn ystyried y pwyntiau yn yr adroddiad cyn cyflwyno ei hymateb i'r Cabinet ym mis Ionawr 2018.