Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dau aelod o giang yn euog o fasnachu merch 19 yn Abertawe
Yn yr achos cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, mae dau aelod o giang o Lundain wedi eu cael yn euog o droseddau'n ymwneud 芒 masnachu pobl, wedi iddyn nhw ddefnyddio dynes fregus i gludo a gwerthu cyffuriau o ogledd Llundain i Abertawe.
Yn Llys y Goron Abertawe, fe blediodd Mahad Yusuf, 20 oed a Fesal Mahamud 19 oed o Lundain yn euog i ddefnyddio person ifanc er mwyn ei hecsbloitio o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
Plediodd y ddau'n euog hefyd i gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 4 Ionawr 2018.
Canfod merch goll
Canolbwynt ymchwiliad yr heddlu oedd llwybr rhwng Llundain ac Abertawe oedd yn cael ei reoli gan giang stryd o Lundain. Tacteg y giang yw symud pobl o ddinasoedd fel Llundain i ardaloedd llai poblog er mwyn gwerthu cyffuriau yn lleol.
Ar 25 Mai, daeth swyddogion o uned Trident Heddlu Llundain gyda help Heddlu'r De o hyd i gyfeiriad yn Abertawe yr oedden nhw'n amau oedd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd gwarant ei chyhoeddi i chwilio'r adeilad, a chafodd merch fregus 19 oed o Lundain, oedd wedi bod ar goll, ei chanfod yno.
Trwy astudio sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol, dysgodd swyddogion Trident fod y giang wedi denu'r ferch i'w car ar 么l cyfathrebu gyda hi ar wefannau cymdeithasol, cyn ei gyrru i Abertawe.
Ar 么l cyrraedd, cyfarfu'r ferch a Yusuf, a ddwedodd wrthi ei bod hi nawr yn "eiddo iddo fe".
Cafodd ei ff么n ei ddinistrio a chafodd ei chadw yn yr adeilad am bum niwrnod. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd ei gorfodi i werthu cyffuriau dosbarth A yn erbyn ei hewyllus.
Achos ddim yn unigryw
Wrth i'r ddau droseddwr bledio ar y cyd, derbyniwyd mai Muhamad oedd yn rhoi gorchmynion i Yusuf.
Dywedodd llefarydd ar ran uned Trident fod y ferch wedi "dioddef yn ddychrynllyd dan law'r ddau ddyn, oedd wedi ei symud er eu budd troseddol nhw eu hunain.
"Yn anffodus, dydy'r achos hwn ddim yn unigryw o bell ffordd.
"Mae delwyr cyffuriau'n ecsbloetio pobl fregus ar draws y wlad drwy 'county lines'.
"Mae'r erlyniad hwn yn rhoi neges glir i unrhyw ddeliwr cyffuriau os ydych chi'n ecsbloetio pobl ifanc byddwn yn dod o hyd i chi, yn eich dwyn i gyfri a byddwch yn teimlo gwir rym y gyfraith."