Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mae pawb yn trafod ystum nosweithiol Huw Edwards
Eiliadau sydd yna i fynd. 'Rych chi ar fin rhannu'r newyddion diweddara' i 10 miliwn o bobl. Sut ydych chi'n mynd i greu argraff o awdurdod ac ymddiriedaeth wrth i'r gerddoriaeth ddechrau?
Fel y gwelwch chi yn y llun, mae Huw Edwards, cyflwynydd ´óÏó´«Ã½ News at Ten, wedi perffeithio'r grefft. Bob nos mae ei fraich chwith wedi ymestyn a'i benelin dde ar y ddesg o flaen ei sgriptiau.
Ond fedrwch chi 'Wneud yr Huw', ffenomenon ddiweddara'r cyfryngau cymdeithasol?
Yn ddiweddar bu'r cyflwynydd yn dysgu criw o blant ysgol sut i eistedd yn awdurdodol wrth eu desgiau. Erbyn hyn mae fideo #DoTheHuw yn cael ei rhannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Sut hwyl gewch chi? Beth am wneud fideo byr neu dynnu llun a'u hanfon at cymrufyw@bbc.co.uk
Gallwch eu hanfon hefyd trwy ein cyfrif Twitter neu rannu ar ein .