Milfeddyg yn adfer ei glyw gyda ‘chyfrifiadur’ yn ei ben

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Merfyn Evans lawdriniaeth ym Mhen-y-bont ddeufis yn ôl er mwyn gallu clywed yn well

"Mae ychydig yn rhy gynnar i glywed y gwcw eto ond dyna fydd y pinacl mae'n siŵr."

Yn 54 oed mae Merfyn Evans, sy'n byw yng Nghei Newydd, yn edrych ymlaen at glywed yr aderyn yn canu am y tro cyntaf.

Pan oedd yn blentyn ifanc fe gollodd 60% o'i glyw ar ôl cael clwy'r pennau.

"Ges i a fy mrawd a'n chwaer mumps yr un pryd," meddai wrth Cymru Fyw.

"O'n i ddim yn sâl iawn ar y pryd ond o ganlyniad i hynny golles i fy nghlyw pan o'n i yn yr ysgol gynradd.

"O hynny 'mlaen wedyn nes i ymdopi yn eitha' da a dechrau gwisgo'r cymorth clust ac yn y blaen. Ond gydag oedran wedyn fi'n credu bod y clyw wedi dirywio."

Darllen gwefusau

Darllen gwefusau wnaeth Merfyn - sy'n filfeddyg yng ngorllewin Cymru - am flynyddoedd pan oedd yn yr ysgol â'r brifysgol.

"Nes i ymdopi'n eitha' da... achos o'n i'n talu sylw," meddai.

Disgrifiad o'r fideo, Roedd y profiad o glywed gyda'r ddyfais newydd yn un o "lot o hiwmor" meddai Merfyn Evans

Ond mae'n cyfaddef fod y nam ar ei glyw wedi bod yn drafferthus mewn rhai amgylchiadau.

"Mae rhywun yn tueddu i stryglo ychydig pan 'chi mewn sefyllfa gyda lot o bobl neu lot o sŵn cefndir," meddai.

"Mae'n anodd iawn diystyru'r synau cefndir neu os oes cerddoriaeth yn y cefndir, ond chi'n dysgu i fyw gyda fe."

Sŵn 'bubble a squeak'

Deufis yn ôl cafodd Merfyn lawdriniaeth ym Mhen-y-bont er mwyn gosod mewnblaniad yn ei ben.

Mae dau ddarn i'r mewnblaniad, sef meicroffon sy'n cael ei roi tu ôl i'r glust sy'n trawsnewid sŵn i signalau trydanol, ac wedyn dyfais sy'n cael ei osod tu fewn i'r ymennydd.

Mae hwn yn derbyn y signalau trydanol o'r meicroffon ac yn eu gyrru i'r glust fewnol.

"Mae e fel cyfrifiadur bach. Mae'n pigo fyny patrymau siarad ac yn tueddu i ddiystyru synau cefndir," meddai Merfyn.

"Mae'n cael ei drosglwyddo lawr trwy fagnet sydd o dan fy nghroen ac mae'r sŵn yn cael ei gyfleu trwy electron i mewn i'r glust fewnol. Mae'n rhaid i fy ymennydd i wedyn ddehongli'r sŵn."

Disgrifiad o'r fideo, Merfyn Evans yn esbonio sut mae'r teclyn yn gweithio

Roedd yna dipyn o hiwmor pan gafodd y teclyn ei droi ymlaen am y tro cyntaf meddai.

"O'n i ffili stopo werthin achos pan gath e ei droi 'mlaen, o'dd y bachan radiologist yn siarad a o'dd bubble a squeak math o sŵn da fe.

"Ac wedyn o fewn yr awr, fel o'n i yn addasu, o'dd ei sŵn e'n hollol ddynol. O'dd e ddim yn robotic o gwbl."

Ymateb cwsmeriaid

Mae'n dweud bod y llawdriniaeth yn golygu ei fod yn gallu clywed "synau uchel" ac nad yw'n gorfod rhoi'r is-deitlau ymlaen er mwyn gwylio'r teledu erbyn hyn.

Fe wnaeth Merfyn hefyd sylweddoli ar sŵn arall oedd yn anghyfarwydd iddo yn ddiweddar.

"O'n i yn yr adeilad 'ma cwpl o wythnosau yn ôl ac o'dd awyren yn hedfan yn isel ofnadwy. O'n i ddim yn gwybod beth o'dd e a sylweddoles i wedyn."

Ond sut mae ei gwsmeriaid wedi ymateb ers iddo gael y llawdriniaeth?

"Ma' sawl un wedi dweud 'mod i'n siarad yn dawelach. O'n i yn siarad rhy uchel o'r blaen. A fi'n ateb nhw yn ôl - wel o'ch chi byth yn achwyn!" meddai gan chwerthin.