Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nathan Gill yn 'bradychu' ei etholwyr, medd AC Plaid
Mae AC Plaid Cymru yn dweud fod AC Annibynnol Gogledd Cymru, Nathan Gill yn "bradychu" etholwyr drwy beidio 芒 mynychu cyfarfodydd y Cynulliad.
Dywedodd Llyr Gruffydd fod Mr Gill, sydd hefyd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros UKIP, ddim yn "cyflawni ei ddyletswyddau".
Ychwanegodd fod angen ystyried cadw "cofrestr ddyddiol" o bresenoldeb gwleidyddion yn y Senedd.
Mae swyddfa Mr Gill wedi gwrthod gwneud sylw, a dyw Mr Gill ddim chwaith wedi ymateb yn uniongyrchol i 大象传媒 Cymru.
'Digynsail'
Yn ddiweddar fe wnaeth cyn-arweinydd UKIP yng Nghymru fethu pleidlais allweddol yn y Senedd ar ymchwiliad arfaethedig i honiadau o fwlio o fewn y llywodraeth.
Mae Mr Gruffydd, sydd hefyd yn un o ACau rhanbarth Gogledd Cymru, bellach wedi ysgrifennu at y Llywydd i fynegi ei "siom, rhwystredigaeth a dicter yn sgil record presenoldeb Nathan Gill".
Dywedodd fod yr AC annibynnol wedi methu "mynychu'r Cynulliad hwn [a] chyfrannu tuag at waith y sefydliad".
"[Mae] o bosib yn nodwedd ddigynsail," meddai AC Plaid Cymru.
"Credaf fod hyn yn bradychu pleidleiswyr rhanbarth etholiadol Gogledd Cymru."
Ychwanegodd: "Gwn fod y ddau ohonom yn ymwybodol o'r dadleuon ynghylch mandadau deuol, ond yn yr achos hwn mae'n amlwg nad yw'r aelod yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau."
Dywedodd Mr Gruffydd nad oedd ACau yr un lefel o graffu ynghylch eu presenoldeb 芒 chynghorwyr, gan ofyn i'r Llywydd adolygu presenoldeb Mr Gill.
"Tra bod posibilrwydd y byddai modd mesur presenoldeb yn y Cynulliad mewn sawl ffordd, byddai cofrestr ddyddiol yn gam i'r cyfeiriad cywir, cyn belled bod y mesurau priodol yn eu lle i atal camddefnydd," ychwanegodd.
Gill yn 'aros'
Cafodd Mr Gill ei ethol i'r Cynulliad yn 2016 i gynrychioli UKIP, ond bellach mae'n eistedd fel aelod annibynnol.
Mae'n parhau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru, gan rannu ei amser rhwng Bae Caerdydd a Brwsel.
Dywedodd ffynhonnell wrth 大象传媒 Cymru fod Mr Gill wedi gofyn i awdurdodau'r Cynulliad am eglurhad o'r rheolau ynghylch gadael y swydd.
Ond yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Mr Gill wadu ei fod yn y broses o gamu o'r neilltu.
Mewn ymateb i neges Twitter gan AC Llafur Llanelli, Lee Waters fe ddywedodd: "Sori Lee, 'dach chi'n styc efo fi."
Gan ei fod wedi ei ethol fel AC rhanbarthol, fyddai ei ymddiswyddiad ddim yn arwain at isetholiad.
Yn hytrach byddai ei sedd yn mynd i'r ymgeisydd nesaf ar restr UKIP yng Ngogledd Cymru, Mandy Jones.
Fe wnaeth Ms Jones wrthod gwneud sylw pan gysylltodd 大象传媒 Cymru 芒 hi.
Mae llefarydd ar ran y Cynulliad wedi dweud y bydd y Llywydd Elin Jones yn ymateb i lythyr Mr Gruffydd "maes o law".