Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen rhywbeth 'parhaol' i nodi hanes Iddewig Cymru
- Awdur, Si么n Pennar
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae angen rhywbeth parhaol i nodi treftadaeth Iddewig Cymru, yn 么l arbenigwr.
Dywedodd arbenigwr ar Iddewon yng Nghymru ac awdur y llyfr 'The Jews of Wales,' Dr Cai Parry-Jones fod mwy o gydnabyddiaeth i'r rhan yma o hanes Cymru ers cychwyn datganoli, ond bod diffyg sefydliadau neu brosiectau parhaol - yn wahanol i'r Alban a Lloegr.
Daw wrth i ansicrwydd am ddyfodol hen Synagog Merthyr Tudful barhau.
Mae'r addoldy gothig - y synagog hynaf sy'n dal i sefyll yng Nghymru - yn wag ac ar werth.
Un o awgrymiadau Dr Parry-Jones, ynghyd 芒 rhai'n lleol - ydy ei droi'n amgueddfa.
Gwlad aml-grefyddol
Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd cynnydd yn ymwybyddiaeth pobl Cymru o hanes ei Hiddewon, yn 么l Dr Parry-Jones.
"Ers datganoli, mae 'na fwy yn cael ei wneud, achos mae Cymru'n dechrau deall a gweld ei hun fel gwlad aml-grefyddol ac amlddiwylliannol," meddai.
Dywedodd bod llyfrau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar y pwnc a bod arddangosfeydd dros dro wedi eu cynnal.
"Ond does dim byd cadarn a pharhaol, felly gall mwy gael ei wneud."
Draw ym Merthyr, mae caniat芒d cynllunio i droi'r hen synagog, sydd ar y farchnad, yn fflatiau.
Cafodd yr adeilad ei godi yn yr 1870au, ac roedd yn gwasanaethu cymuned sylweddol ar un cyfnod.
Mae hefyd yn anghyffredin yn bensaern茂ol, ac mae Dr Parry-Jones yn dweud bod rhai o adeiladau mwyaf eiconig de Cymru - fel Castell Coch a Chastell Cyfarthfa - wedi dylanwadu arddull Neo-gothig "anarferol" y synagog.
Gobaith rhai ym Merthyr yw nad cael ei droi'n fflatiau fydd ffawd yr adeilad, gydag awgrym y gallai'r cyngor lleol gymryd yr awenau a'i droi yn amgueddfa.
Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i Gyngor Merthyr Tudful am sylw.
Wedi'u gwasgaru
Mewn rhan arall o Gymru, mae aelod o'r gymuned Iddewig yn dweud nad ydy cynnal cymuned na threftadaeth yn hawdd.
Yn 么l yr Athro Nathan Abrams o Fangor, mae Iddewon y gogledd wedi'u gwasgaru, sy'n ei gwneud hi'n anodd cynnal digwyddiadau.
"Does 'na ddim llawer o Iddewon yng ngogledd Cymru, felly mae'n anodd gwneud pethau efo 10 o bobl - does 'na ddim synagog, dim cyfleusterau.
"Dwi'n trio gwneud pethau fel ffilmiau, pethau trwy fwyd - achos mae pawb yn licio bwyd!
"'Dan ni'n trio pob math o bethau... Ond mae'n anodd."
Er bod dyfodol Synagog Merthyr yn ansicr, i'r rheiny sydd am weld mwy o gydnabyddiaeth o hanes Iddewig Cymru, fe allai fod yn allweddol.
Yn ogystal 芒'r awgrym i'w droi'n amgueddfa neu ganolfan dreftadaeth, mae awgrym arall i'w symud i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, sydd ag addoldai Cristnogol yn unig ar hyn o bryd.
Mae Iddewon ar hyn o bryd yn dathlu G诺yl y Cysegriad - Hannukah - fydd yn dod i ben gyda'r nos ar 20 Rhagfyr.