Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eluned Morgan: 'Angen help i gyrraedd 1m o siaradwyr'
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg 大象传媒 Cymru
Mae'n rhaid i bob unigolyn sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru helpu Llywodraeth Cymru gyda'u nod o gyrraedd y targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Dyna mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan wedi'i ddweud wrth iddi hi gyhoeddi cynllun addysg sy'n gosod cyfeiriad ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf.
Mae'r strategaeth yn gosod targedau newydd ar gyfer cyrraedd yr uchelgais o filiwn o siaradwyr.
Dywed Llywodraeth Cymru mai'r nod yw sicrhau bod pob person ifanc "yn gadael y system addysg yn barod i ddefnyddio'r iaith ym mhob cyd-destun".
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am gynllun y llywodraeth, gan ddweud ei fod yn "rhy araf o lawer".
Un nod yw cynyddu canran y plant saith oed sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o 22% ar hyn o bryd i 24% erbyn 2021.
Ond mae hynny'n llai na'r targed oedd yn y strategaeth ddiwethaf - sef 30% erbyn 2020.
Dywedodd y gweinidog bod rhaid bod yn "realistig" yngl欧n 芒 sut i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.
Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys pum prif amcan i'w cyflawni erbyn 2021:
- Datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn ysbrydoli dysgwyr i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg;
- Cynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael defnyddio eu Cymraeg o oedran cynnar;
- Athrawon i ddatblygu eu sgiliau i gyflwyno'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Cynyddu nifer y dysgwyr sydd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg;
- Sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yr un mor rhwydd i bob dysgwr.
Gwnaeth y gweinidog y cyhoeddiad yn ei chyn-ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
"Roeddwn i'n un o lond llaw o blant ar fy yst芒d yng Nghaerdydd a gafodd eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy'n cofio'n iawn cerrig yn cael eu taflu at ein bws yn llawn plant ysgol gynradd, yn dangos gwrthwynebiad i ysgol Gymraeg yn y gymdogaeth."
Ychwanegodd: "Rwy' wrth fy modd bod yr agwedd tuag at yr iaith wedi newid yn sylfaenol ers pan oeddwn i'n blentyn, a bod gyda ni'r cyfle nawr i adeiladu ar yr ewyllys da hwn.
"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gryn her. Mae ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig y rheini o deuluoedd di-Gymraeg, i gofleidio'r iaith a'i defnyddio ym mhob cyd-destun yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y targed hwn.
"P'un a yw ein plant yn mynd i ysgolion Cymraeg neu'n dysgu'r Gymraeg mewn ysgol Saesneg, mae addysg yn allweddol i lwyddiant yr uchelgais hon.
"Dyna pam mae Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg mor bwysig a pham mae'n flaenoriaeth ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn."
'Osgoi ymrwymo'
Ond mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am gynllun Llywodraeth Cymru.
Dywedodd cadeirydd gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone: "Y broblem sylfaenol gyda'r cynllun yw bod y camau i normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhy araf o lawer.
"Ac, er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i greu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg, mae'r cynllun yn osgoi ymrwymo'n gadarn i sicrhau y bydd un cymhwyster Cymraeg a phob disgybl yn ei sefyll.
"Yn 2013, dywedodd adolygiad annibynnol y llywodraeth bod angen dileu Cymraeg Ail Iaith 'ar frys' ac erbyn, fan hwyraf, 2018.
"Fodd bynnag, dan y cynllun hwn mae perygl y bydd y cymhwyster ail iaith yn parhau tan 2025."