大象传媒

Gwaith dociau'n golygu mwy o gostau i ffordd osgoi'r M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r draffordd yn cael ei hadeiladu dros ddociau Casnewydd dan gynllun y llywodraeth

Mae cost cynllun arfaethedig ffordd osgoi'r M4 wedi cynyddu 10% er mwyn gwneud mwy o waith yn nociau Casnewydd.

Mae'r dyddiad y mae disgwyl i'r ffordd gael ei chwblhau hefyd wedi ei wthio 'n么l dwy flynedd at ddiwedd 2023.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y cynnig i wario 拢136m yn rhagor ar wella cyfleusterau ac ailgartrefu cwmn茂au o fewn y dociau yn golygu y bydd y perchennog, Associated British Ports, yn tynnu ei wrthwynebiad i'r cynllun.

Fe ddechreuodd ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect ym mis Chwefror, a does dim disgwyl iddo orffen nes gwanwyn 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yna'n gwneud penderfyniad terfynol erbyn diwedd yr haf, ond mae eisoes wedi dweud mai'r opsiwn y mae'n ffafrio yw'r llwybr du - traffordd 拢1.3bn i'r de o Gasnewydd.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y bwriad yw y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn 2019.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dociau Casnewydd yn cefnogi tua 2,500 o swyddi, medd Ken Skates

Dan y cynlluniau, byddai pont newydd 146m o daldra yn cael ei hadeiladu dros Afon Wysg.

Byddai'r bont yma tua dwbl taldra Pont Gludo Casnewydd gerllaw, ac ychydig yn dalach nac Ail Groesfan Pont Hafren.

Ni wnaeth Llywodraeth Cymru ddechrau trafodaethau llawn gydag Associated British Ports nes haf 2016, tair blynedd ar 么l iddyn nhw geisio agor y trafodaethau.

Mae'r cwmni'n gwrthwynebu'r cynllun ar hyn o bryd, ac fel perchennog y porthladd, mae ganddo statws arbennig o fewn y broses gynllunio.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod y porthladd yn "cefnogi rhyw 2,500 o swyddi ac yn cyfrannu 拢173m y flwyddyn i economi Cymru".

Ychwanegodd bod yr achos busnes wedi cael ei adolygu a'i fod yn "dal i ddangos bod y prosiect yn rhoi gwerth am arian".