Brexit: Beth nesaf i stori wleidyddol ein cenhedlaeth?

Ffynhonnell y llun, AFP

  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Brexit 大象传媒 Cymru

Gohebydd Brexit 大象传媒 Cymru, James Williams sydd yn bwrw golwg ar y flwyddyn a fu - a beth sydd i ddod - yn y trafodaethau Brexit.

"Mae'n hen bryd bod ni'n gadael - mae'r gwleidyddion na'n gwasanaethu'r bobl a ni 'di pleidleisio dros Brexit - ddylen ni jest gerdded i ffwrdd!"

"Paid bod yn wirion! Fydde hynny'n uffernol ychan!"

Oce, dwi ddim yn cofio gair am air be ddywedodd y ddau 诺r, ond dyna oedd trywydd y sgwrs.

Fe wnes i glywed y ddadl yma wrth giwio am dd诺r yng nghaffi canolfan hamdden Caerfyrddin dros y 'Dolig, ond rwy'n clywed sgyrsiau o'r un fath ym mhobman - ar y tr锚n, yn y dafarn, wrth dorri fy ngwallt.

Heb os, dyma yw stori wleidyddol ein cenhedlaeth a dwi'n synhwyro bod yna awydd i'w drafod.

Yn sicr, wedi newydd ddechrau'n swydd fel gohebydd Brexit, dwi'n cael fy ngofyn amdano o hyd:

"Beth sy'n mynd i ddigwydd nesa, de?"

"Ydyn ni wir yn mynd i adael yr Undeb?"

"Pam bod pawb mor negyddol am yr holl beth?"

Hefyd mae 'na wastad gwestiwn neu ddau'r dyddie 'ma ynghylch Brexit ym mhob un cwis tafarn dwi 'di bod iddo'n ddiweddar - mae'r pwyse o orfod ateb y cwestiynne hynny'n gywir yn annioddefol!

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r trafodaethau rhwng David Davis (chwith) a Michel Barnier fod hyd yn oed yn galetach yn 2018

Y cloc yn tician

Efallai nag yw'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n digwydd yn y byd gwleidyddol yn cael ei drafod lawr y Mochyn Du, ond does dim dwywaith fod Brexit yn gyffredinol yn dal i danio dadleuon a thrafodaethau ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig.

Wrth gwrs, mae Brexit hefyd yn hawlio tipyn o sylw ar y cyfandir, ond does dim dwywaith bod arweinwyr yr Undeb a newyddiadurwyr o'r gwledydd eraill yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd rhai o'r problemau eraill dirfodol sy'n ei hwynebu - yr argyfwng mudo, yr Euro ac yn y blaen.

I newyddiadurwyr fel fi sy'n teithio i Frwsel - ac mae 'na lawer mwy o ni'r dyddie yma nawr ein bod ni'n gadael yr Undeb - dim ond un stori sydd yna.

Ar 么l dechrau digon tawel i drafodaethau Brexit, fe wnaeth y cyfnod cyn y 'Dolig brysuro wrth i'r prif weinidog gyrraedd cytundeb gyda'r Undeb ar y cam cyntaf yn y sgyrsiau.

Roedd hynny'n ddatblygiad pwysig.

O ystyried bod y cloc yn tician ar y cyfnod ffurfiol o drafod Brexit (ar 23:00 ar 29 Mawrth 2019 bydd y cloc larwm yn canu), roedd gwleidyddion a swyddogion bues i'n siarad gyda'n dweud bod angen cyrraedd cytundeb erbyn yr uwchgynhadledd ym mis Rhagfyr.

Er hynny, mae'r ddwy ochr yn disgwyl y bydd y flwyddyn nesaf lot yn galetach - gellir disgwyl lot o deithio n么l a 'mlaen ar yr Eurostar a chydweithwyr yn gofyn am siocledi n么l o Frwsel!

Yr Helyntion yn dychwelyd?

Un o'r meini tramgwydd mwyaf yn ystod y cam cyntaf oedd y ffin yn Iwerddon.

Y disgwyl yw y bydd hynny'n parhau yn y flwyddyn newydd achos, er gwaetha'r cytundeb ar yr egwyddorion, bydd angen rhoi mwy o gig ar yr asgwrn dros y misoedd nesaf.

Fe fydd pobl fel Gwennan Lyttle yn dilyn y datblygiadau hynny'n astud.

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd does dim ffin galed rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon

Bues i'n cwrdd 芒'r Gymraes o Geredigion sy'n byw gyda'i g诺r ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon fis diwethaf.

Roedd hi'n s么n am y pryderon sydd yna ymysg y bobl leol petai ffin galed yn cael ei hailsefydlu, ac fe gwrddes i 芒 sawl un wrth ffilmio ger pentref Middletown oedd yn rhannu'r pryderon hynny.

"Os bydd y ffin galed yn dychwelyd, yna does dim dwywaith y bydd Yr Helyntion yn dychwelyd i'r rhan yma o'r ynys," meddai un dyn wrtha i oedd yn byw yn y Weriniaeth, ond oedd wedi croesi'r ffin y diwrnod hwnnw i brynu glo achos ei fod e'n rhatach.

Pan mae gwleidyddion a newyddiadurwyr yn s么n am ddatblygiadau technegol iawn yn y broses yma, rhaid cofio'r effaith ar bobl fel y g诺r yna.