Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadu agwedd Carchar Abertawe at garcharorion bregus
Mae Carchar Abertawe wedi ei feirniadu'n hallt am ei agwedd tuag at garcharorion bregus.
Yn 么l adroddiad gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, does dim digon wedi ei wneud i ddelio 芒 lefelau uchel o hunan-niweidio a hunanladdiad o fewn y tair blynedd ddiwethaf.
Ers 2014, mae pedwar carcharor wedi lladd eu hunain yng Ngharchar Abertawe, ac mae'r niferoedd sy'n niweidio eu hunain wedi treblu.
Mae Prif Weithredwr Carchardai a Gwasanaethau Prawf Ei Mawrhydi'n dweud bod rheolwr y carchar wedi "cryfhau trefniadau diogelwch".
22 awr mewn cell
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod y carchar wedi dechrau rhoi swyddogion i oruchwilio waliau'r safle, er mwyn ceisio atal cyffuriau a ffonau symudol rhag cael eu taflu mewn i'r carchar.
Pryder arall sydd wedi codi yw bod rhai carcharorion yn treulio 22 awr y dydd mewn cell - ac mae'r nifer sy'n ymwneud 芒 gweithgareddau dysgu a hyfforddiant yn isel.
Dywedodd Gwasanaeth y Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf bod gwelliannau wedi dechrau cael eu cyflwyno'n barod.
Dywedodd Prif Arolygydd y Carchardai, Peter Clarke, fod yr arolwg ym mis Awst 2017 yn "hynod siomedig".
"Rhwng ein harolwg diwethaf yn 2014 a phan aethon yn 么l y llynedd, roedd yna bedwaredd farwolaeth bellach wedi bod - pob un dan amgylchiadau tebyg, a phob un yn fuan wedi i'r unigolyn gael ei garcharu yng ngharchar Abertawe," meddai.
"Yn syml, does dim digon wedi ei wneud i ddeall pa fath o broblemau maen nhw'n eu hwynebu er mwyn eu hatal rhag niweidio'u hunain neu ladd eu hunain."
Yn y chwe mis cyn yr arolwg diweddaraf, roedd 134 o achosion o hunan-niweidio, ffigwr, medd Mr Clarke, oedd yn "gwbl annerbyniol".
Camau
Ychwanegodd, serch hynny, fod gan bennaeth y carchar nifer o gynlluniau i wella'r sefyllfa a bod pethau wedi datblygu.
Dywedodd Prif Weithredwr Carchardai a Gwasanaethau Prawf Ei Mawrhydi, Michael Spurr: "Mae'r pennaeth a'i d卯m wedi cymryd camau yn syth ers yr arolwg i gryfhau trefniadau diogelwch yn y carchar ac i leihau hunan-niweidio.
"Mae hyn yn cynnwys gwaith i wella'r lefel o ofal a chefnogaeth sy'n cael ei gynnig i garcharorion newydd yn y ganolfan noson gyntaf."
Ar raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Dai Lloyd, bod carcharorion yn dioddef o amrywiaeth o broblemau, fel problemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, a thrais: "Rhaid cofio, mae rhai pobl wedi gorfod diodde'r plentyndod a magwraeth mwyaf erchyll, ac mae'n cael ei drosglwyddo'n aml wedyn i fod yn droseddu yn nes ymlaen.
"Y dystiolaeth ydy, o fewn y carchar yma, dy' nhw ddim yn delio'n ddigonol a'r problemau yma.
"Mae 'na feirniadaeth ynghylch sut mae'r staff yn mynd i'r afael a'r carcharorion bregus yma."
'Datganoli'
Mynnodd Mr Lloyd y byddai modd rheoli'r sefyllfa yn well yn Abertawe, petai carchardai'n cael eu datganoli: "Yn y pendraw, yr angen yma i atal aildroseddu yw'r bwgan mawr, ac mae'n anodd cydlynu gwasanaethau fel y mae hi ar hyn o bryd, achos dydy carchardai ddim wedi cael eu datganoli.
"Ond mae nifer o'r gwasanaethau mae'n carcharorion ni'n dibynnu arnyn nhw i fynd allan a bod yn llwyddiant yn y byd wedi eu hamser nhw yng ngharchar Abertawe, wedi datganoli, megis gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd meddwl, hyfforddiant am swyddi ac ati, ac mae'n anodd iawn i gael y cydlynu yna i atal aildroseddu wedi hynny.
"Dwi'n credu y dylen ni fod yn datganoli carchardai. Fe ddylen ni ddechrau drwy ddatganoli'r heddlu i Gymru."