'Rhowch wybod am anifeiliaid marw ar y ffyrdd'

Ffynhonnell y llun, Susie Edwards

Disgrifiad o'r llun, Mae ymgyrchwyr yn galw am wneud hi'n orfodol i gofnodi achosion o ladd cathod ar y ffyrdd, fel sy'n digwydd yn achos c诺n.

Mae ymchwilwyr a chadwriaethwyr yn galw ar y cyhoedd i roi gwybod i'r awdurdodau bob tro maen nhw'n dod ar draws anifeiliaid marw ar y ffyrdd.

Yn 么l gwybodaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, fe gafodd 444 o anifeiliaid marw eu darganfod ar draffyrdd a chefnffyrdd Cymru yn unig yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd ond yn cyfateb i 9.8% o ffyrdd Cymru.

Mae RSPCA Cymru wedi cefnogi trefn "orfodol" i gasglu anifeiliaid anwes marw o'r ffyrdd.

Yn 么l y gr诺p ymchwil Project Splatter ym Mhrifysgol Caerdydd, mae data arolygon yn dangos bod 827 o anifeiliaid marw wedi eu cofnodi ar holl ffyrdd Cymru yn 2016 a 747 yn 2017.

Ers 2013, maen nhw wedi derbyn manylion 3,735 o achosion yn ymwneud ag o leiaf 62 o rywogaethau gwahanol, yn bennaf gan aelodau'r cyhoedd trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac apiau.

Ffynhonnell y llun, Paul Hobson

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Project Splatter, yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd gan amlaf yw draenogod, cwningod, ffesantiaid, moch daear a llwynogod.

Ond yn 么l Amy Schwartz, un o ymchwilwyr Project Splatter, mae pobl "yn fwy tebygol i roi gwybod am rywogaethau llai anarferol - anifeiliaid mwy o ran maint, yn aml.

"Mae pobl yn gweld colomennod marw o hyd heb feddwl am roi gwybod amdano, ond mae'n bwysig. Mae'n rhan o'r darlun ehangach.

"Ble bynnag mae rhai anifeiliaid yn cael eu taro, mae'n tueddu i effeithio ar rywogaethau eraill hefyd."

Ychwanegodd Dr Fred Slater, cymrawd ymchwil yn ysgol biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae amcangyfrifon marwolaethau'r rhan fwyaf o anifeiliaid llai yn rhy isel o lawer, oherwydd cyn dim o dro mae creaduriaid eraill yn cael gwared arnyn nhw... creaduriaid all gael eu lladd eu hunain wrth wneud."

Beth ddylid ei wneud ar 芒l taro neu weld anifail ar y ffordd

  • Rhoi gwybod i'r cyngor lleol am anifeiliaid marw mewn ardaloedd cyhoeddus a ffyrdd er mwyn iddyn nhw eu symud.
  • Ffonio'r RSPCA ar 0300 1234 999 os yw'r anifail yn dal yn fyw ac wedi'i anafu.
  • Mae'n rhaid stopio a chysylltu gyda'r heddlu yn achos damwain ar 么l taro c诺n, ceffylau, gwartheg, moch, geifr, defaid a mulod.
  • Cysylltu 芒 grwpiau cadwriaethol ynghylch unrhyw anifeiliaid eraill.

Mae RSPCA Cymru hefyd wedi galw am drefn newydd i sichrau bod mwy o berchnogion anifeiliaid anwes yn cael gwybod os ydyn nhw'n cael eu lladd ar y ffyrdd.

Dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1998, does dim gofyn i yrwyr gysylltu 芒'r heddlu ar 么l taro anifeiliaid gwyllt neu gathod.

Dywedodd llefarydd RSPCA Cymru: "Mae awdurdodau lleol sydd 芒 pholisi i sganio c诺n marw am feicrosglodion yn cael eu cydnabod am ymarfer da.

"Yn hyn o beth rydym yn cefnogi casglu gorfodol, adnabod anifeiliaid anwes, a hysbysu perchnogion pan maen nhw'n cael eu lladd ar briffyrdd."

'Cefais fy siomi gan bawb'

Fe gollodd Susie Edwards ei chath, Angel, bedair blynedd yn 么l yng Nghastell-nedd, gan amau i'r creadur farw mewn damwain ffordd na chafodd ei hysbysu i'r awdurdodau.

"Wnes i dreulio diwrnodau yn chwilio amdani, ond yna fe ddywedodd cymydog eu bod wedi gweld cath farw tu allan i'r t欧 am 11 y nos, a'r bore trannoeth roedd wedi mynd."

"Fe ffoniais y cyngor eto a dweud .... 'mae rhywun wedi symud y gath, mae rhywun wedi gwneud rhywbeth gyda'r corff'.

"Chefais i ddim ateb erioed. Doedd y cymydog ddim yn ei weld yn broblem, na'r sawl a gododd y gath, na'r cyngor. Fel perchennog anifail anwes, cefais fy siomi gan bawb."

Ffynhonnell y llun, Susie Edwards

Disgrifiad o'r llun, Fe chwiliodd Susie Edwards am ddyddiau am ei chath goll

Mae mudiad The People's Trust for Endangered Species yn cynnal arolwg bob haf i gael gwell syniad o effaith marwolaethau ffyrdd ar boblogaethau anifeiliaid.

Dywedodd David Wembridge o'r mudiad: "Does neb yn hoffi gweld anifeiliaid marw ar ymyl ffordd, ond trwy eu cyfri rydym yn casglu digon o wybodaeth i gymharu tueddiadau poblogaeth o flwyddyn i flwyddyn, ac adnabod lle mae angen canolbwyntio'n ymdrechion i'w gwarchod."

Codi ymwybyddiaeth

Yn 么l Dominic Dyer, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Moch Daear, mae cofnodi damweiniau yn helpu grwpiau cadwraethol" i liniaru cyn gymaint o fygythiadau 芒 phosib a chodi ymwybyddiaeth" trwy gamau fel arwyddion, twmpathau ffordd a thwneli anifeiliaid.

Dywedodd Ms Schwartz bod newidiadau o'r fath yn cael eu hwyluso oherwydd gwybodaeth gan y cyhoedd - yn yr un modd, fe gafodd silff ei osod yng Ngwent gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

"Oherwydd i bobl roi gwybod am ddyfrgwn marw, fe lwyddon nhw i ddarbwyllo pobl eraill i ddarparu tystiolaeth, i weithredu."

Pwysleisiodd hefyd ei bod hi'n bwysig i yrwyr beidio 芒 goryrru.

"Mae astudiaethau wedi dangos bod anifeiliaid yn dysgu faint o amser sydd ganddyn nhw i redeg i ffwrdd o ffyrdd cyfarwydd, sydd 芒 goblygiadau os yw pobl yn torri'r cyfyngiad cyflymder."