Llys yn cael dau ddyn yn euog o drefnu ymladd moch daear

Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog yn Llys Ynadon Llandudno o drefnu gornest rhwng c诺n a mochyn daear ym Mlaenau Ffestiniog.

Roedd Jordan Houlston, 24, o Landudno a David Thomas, 51, o Fferm Cwm Bowydd wedi eu ffilmio gan gymdeithas yr RSPCA yn cynnal yr ornest mewn coedlan ger y fferm ym mis Chwefror y llynedd.

Roedd y ddau wedi gwadu cyfres o gyhuddiadau yn ymwneud 芒 threfnu'r ornest. Fe gafwyd Houlston yn euog o hynny a chyhuddiad arall yn ymwneud 芒 lles c诺n, ond yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall o niweidio mochyn daear ac achosi dioddefaint i bedwar ci.

Fe gafwyd Thomas yn euog o saith cyhuddiad, gan gynnwys cadw eiddo ar gyfer ymladd anifeiliaid, achosi dioddefaint diangen i lwynogod a rhai'n ymwneud 芒 lles c诺n, ond fe'i cafwyd yn ddieuog o niweidio mochyn daear yn fwriadol.

Dywedodd y barnwr fod Houlston wedi gyrru o Landudno i ardal goediog ar fore 5 Chwefror y llynedd lle y cyfarfu 芒 Thomas.

Fe wnaeth y ddau gynnal yr ornest yno gan ddefnyddio mochyn daear oedd wedi ei osod mewn set artiffisial. Roedd y barnwr yn gwrthod yr honiad y gallai'r mochyn daear fod wedi mynd i'r set yn wirfoddol.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 5 Chwefror ynghyd 芒 dau berson arall oedd wedi pledio'n euog yn gynharach yn yr achos.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos fe wnaeth y ddau ddiffynnydd bledio'n euog i fod yn bresennol mewn gornest anifeiliaid - bachgen 17 oed a Marc Wyn Morris, 26 oed o Flaenau Ffestiniog.

Fe gafodd y llys ffermwr o ardal Blaenau Ffestiniog yn ddieuog o gadw eiddo ar gyfer cynnal gornest anifeiliaid, wedi i'r RSPCA ollwng yr achos yn ei erbyn.

Roedd Evan Bleddyn Thomas, 52, wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.