´óÏó´«Ã½

Sut i fod yn hapus

  • Cyhoeddwyd

Mae 20 o Fawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd. Dyma gyngor Catrin Ahmun, hyfforddwraig ffitrwydd a yoga ar sut i deimlo'n dda:

Ffynhonnell y llun, Catrin Ahmun

Dwi'n dwli mynd mewn i flwyddyn newydd. Mae'n llawn gobaith, cyfleoedd a chyffro.

Mae'n gyfle i adlewyrchu ar y flwyddyn a fu a phenderfynu beth sydd angen gadael ar ôl, neu beth i'w ychwanegu at eich bywyd. Mae'n bwysig i fod yn ymwybodol o beth sy'n eich codi chi i fyny a beth sy'n eich tynnu chi i lawr yn eich bywyd.

1. Ymarfer corff

Mae'n syml, pan ry'ch chi'n gwneud ymarfer corff mae'r ymennydd yn creu cemeg sy'n 'neud i chi deimlo'n hapus. Does dim ots pa fath o ymarfer corff rydych chi'n ei wneud, dim ond eich bod chi'n ei fwynhau. Dwi'n ffan mawr o pilates gan ei fod yn gyfuniad da; mae'n gweithio'r corff i gyd, yn eich cryfhau chi ac yn cadw'ch cefn yn iach. Mae'n addas iawn at ddechreuwyr gan fod y cyfan ar y mat a dim un jwmp mewn golwg (sy'n cadw'r pengliniau'n hapus!)

2. Deffrwch bob dydd gyda dŵr cynnes a lemwn

Mae'r corff angen cael ei hydradu peth cyntaf yn y bore. Mae lemwn yn cynnwys fitamin C a wneith roi hwb i'ch imiwnedd ac mae'n helpu i lanhau'r system treulio. Hefyd, mae yfed hwn yn rheolaidd yn helpu cadw'r croen yn iach a llyfn.

3. Mabwysiadu arferion positif

Wrth edrych ar ein bywyd mae'n siŵr ein bod ni gyd yn medru dod o hyd i arferion negatif sydd ddim yn 'neud lles i'n corff, meddwl a'n enaid. Gall hyn fod yn gossipan, treulio gormod o amser ar gyfryngau cymdeithasol, ysmygu neu yfed gormod o goffi. Ni'n gwybod beth yw ein harferion neu ymddygiad negatif, felly ysgrifennwch restr o arferion positif gall gymryd eu lle, a gwnewch nhw. Darllen llyfr, treulio amser tu allan bob dydd, mynd i'r gwely'n gynharach ac yn y blaen.

4. Yoga… yoga, bob dydd!

Ond nid y stwff 'stretchy'. Ma 'na sawl elfen sy'n creu'r gair yoga, 10 mewn gwirionedd. Yn syml, mae yoga'n golygu uno'r corff a'r meddwl. Gwneud rhywbeth â'r corff gyda'r meddwl yn hollol bresennol a darganfod eich hun, i fyw yn rhydd o boen. Felly, bob dydd, cymerwch yr amser i fod yn hollol bresennol ynddo, drwy ddefnyddio bob un synnwyr, byddwch yn ddistaw eich meddwl ac arsylwi.

Ffynhonnell y llun, Kraevski / Thinkstock

5. Ymlaciwch, anadlwch a gadewch i hapusrwydd eich darganfod chi.

Mae pawb yn chwilio am hapusrwydd ond yn aml iawn, nid yn y llefydd cywir. "Os fydden i'n stôn yn ysgafnach neu os gaf i'r car newydd... yna fyddai'n hapus". Rydyn ni'n ceisio cyflawni pethe' mawr i roi pleser i ni, ond r'yn ni gyd yn gwybod fod pleser a hapusrwydd go iawn yn dod o'r pethe' bach.

Cymerwch yr amser bob dydd i feddwl neu ysgrifennwch am y pethe ry'ch chi'n caru, yn ddiolchgar amdanyn nhw, yna fydd hapusrwydd yn dod o hyd i chi. Felly siaradwch a meddyliwch mwy am eich bendithion yn hytrach na meddwl am eich gofidion.

Unwaith rydych chi'n cyfnewid meddyliau negatif gyda rhai positif, mae'n 'neud lle ar gyfer pethau positif i ddigwydd yn eich bywyd.

Hefyd o ddiddordeb: