Cynlluniau i amddiffyn gweithwyr iechyd yn gyfreithiol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gallai grymoedd i warchod staff y GIG rhag ymosodiadau geiriol neu gorfforol gael eu cyflwyno yng Nghymru, gan ddilyn y drefn ddaeth i rym yn Lloegr yn 2009.

Mae ffigyrau'n dangos fod 30,000 o ymosodiadau o'r fath wedi bod mewn ysbytai rhwng 2011 a 2016.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddf fydd yn ei gwneud yn drosedd i bobl achosi niwsans neu dramgwyddo mewn meddygfeydd ac ysbytai.

Ar hyn o bryd, fe all rhywun sy'n ymosod yn gorfforol ar weithiwr iechyd gael ei arestio a'i erlyn, ond fe ddywed staff nad oes pwerau cyfreithiol ar hyn o bryd i atal pobl rhag codi braw ar eraill gyda'u hymddygiad neu ymddwyn mewn modd sy'n tramgwyddo eraill.

Ers 2009, mae gan yr heddlu a byrddau iechyd yn Lloegr yr hawl i daflu pobl allan os ydyn nhw'n amharu ar waith gweithwyr GIG.

Gall y drosedd arwain at ddirwy o hyd at 拢1,000.

Disgrifiad o'r sainMae Dr Neil James yn feddyg teulu yng Ngwent

Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Iau, dywedodd Dr Neil James, sy'n feddyg teulu yng Ngwent, y byddai ef a meddygon eraill yn gwerthfawrogi mwy o gymorth i'w gwarchod rhag ymosodiadau.

'Hawl i weithio heb ofn'

Yn dilyn deiseb i'r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru'n ystyried gweithredu adran 119 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gan staff y GIG yr hawl i wneud eu gwaith heb ofn trais, enllib neu dramgwyddo gan gleifion neu berthnasau.

"Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac annog staff i adrodd am ddigwyddiadau o drais neu fygwth fel y gall y rhai sy'n gyfrifol gael eu herlyn.

"Diolch i ymdrechion clodwiw yr heddlu, y GIG a Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae'n llawer mwy tebyg y gwelwn ni erlyniadau erbyn hyn.

"Rydym ar hyn o bryd yn ystyried penderfynu gweithredu adran 119 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 yng Nghymru er mwyn cynnig cefnogaeth bellach i sicrhau bod staff sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru yn cael eu gwarchod."