Rhybudd i gefnogwyr rygbi Chwe Gwlad gyrraedd yn gynnar

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gofyn i gefnogwyr gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi ciwiau hir

Mae yna rybudd i gefnogwyr rygbi gyrraedd yn gynnar ar gyfer g锚m gyntaf Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Daw'r rhybudd ar 么l i giwiau hir olygu cryn oedi i gefnogwyr oedd yn mynychu gemau Cyfres yr Hydref, a hynny oherwydd bod mesurau diogelwch llymach mewn grym.

"Os ydych yn gadael y cyrraedd tan yr awr neu 45 munud olaf, rydych yn mynd i wynebu ciw sylweddol," meddai Mark Williams, rheolwr Stadiwm Principality.

Ychwanegodd na fyddai bagiau mawr nac ymbar茅ls yn cael eu gadael mewn i'r stadiwm.

Bydd bagiau cefnogwyr yn cael eu harchwilio, ac fe allai bobl gyda bagiau orfod aros pedair gwaith yn hirach na'r gweddill.

Fis Tachwedd y llynedd roedd nifer o gefnogwyr yn dal i aros y tu allan i'r stadiwm ar 么l dechrau'r g锚m rhwng Cymru ac Awstralia oherwydd y mesurau diogelwch newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae s么n am gyflwyno ardaloedd di-alcohol yn y stadiwm yn y dyfodol

Bu'n rhaid i nifer aros dros awr cyn cael mynediad.

"Allwch chi ddim cael 75,000 i'r stadiwm yma mewn 90 munud os ydych am gael lefel uchel o ddiogelwch," meddai Mr Williams.

Dywedodd yr arolygydd Philip Griffiths o Heddlu De Cymru nad oedd unrhyw fygythiad penodol yn bodoli.

"Mae gennym gynlluniau mewn llaw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu sicrhau achlysur diogel," meddai.

Yn y cyfamser, yn dilyn cwynion am ymddygiad rhai cefnogwyr mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried cyflwyno ardal gan ddechrau yn yr hydref.

Fe wnaeth Mr Williams bwysleisio nad oedd cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ymddygiad meddwol neu fygythiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond fod yr awdurdodau am wneud popeth i rwystro ymddygiad o'r fath oherwydd goryfed.

Dywedodd y dylai unrhyw un sy'n cael ei effeithio ddweud am y digwyddiad wrth un o stiwardiaid y stadiwm.