大象传媒

Addysgu plant gartref: Dim rhaid i rieni eu cofrestru

  • Cyhoeddwyd
Addysg yn y cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd gorfodaeth ar rieni i gofrestru eu plant os ydyn nhw'n derbyn addysg yn y cartref, yn 么l cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer "pecyn cefnogaeth gynhwysfawr" ar gyfer addysgwyr cartref, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau.

Mae disgwyl i Kirsty Williams wneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae'r cynlluniau ar gyfer canllawiau statudol, yn hytrach na'r canllawiau anstatudol gafodd eu cyhoeddi y llynedd - oedd, ym marn Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland yn "siomedig".

Rhannu gwybodaeth

Ar hyn o bryd, does dim rhaid i gynghorau gael gwybod os yw plentyn yn derbyn addysg yn y cartref, os nad ydyn nhw wedi eu gwahardd o'r ysgol.

Ni fydd y cynlluniau newydd yn newid hynny, ond bydd yn gorfodi cynghorau i gadw bas data er mwyn gweld plant sydd ddim ar gofrestr ysgol.

Bydd Ms Williams yn ymgynghori ar sut y dylid rheoli'r bas data, a pha bartneriaid - fel byrddau iechyd - allai gyfrannu iddo ac os dylai ysgolion annibynnol roi gwybodaeth i gynghorau am eu disgyblion.

Ni fydd y cynlluniau yn cynnwys pwerau fydd yn gorfodi rhieni i gofrestru eu plant fel rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref, ond bydd yn galluogi cynghorau i greu bas data "eithaf llawn" o blant sydd ddim mewn ysgol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Kirsty Williams wneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth

Mae Comisiynydd Plant Cymru ac elusen NSPCC Cymru yn galw am gofrestr orfodol ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge - plentyn wyth oed o Sir Benfro oedd yn derbyn addysg gartref a fu farw o sgyrfi yn 2011.

Yn dilyn ei farwolaeth fe wnaeth adroddiad gan y Bwrdd Gwarchod Annibynnol Cenedlaethol argymell y dylai rhieni orfod cofrestru eu plant os yn eu haddysgu gartref.

Yn hytrach, bydd y cynlluniau newydd ar gyfer canllawiau statudol yn amlinellu trefniadau bydd yn rhaid i awdurdodau lleol roi mewn lle i adnabod plant sy'n derbyn addysg gartref ac asesu addasrwydd yr addysg.

Bydd cefnogaeth ar gyfer addysgwyr cartref yn cynnwys cymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau, yr un buddiannau meddygol 芒'r rhai sydd ar gael i blant ysgol a chymorth gan Gyrfa Cymru.

Dywedodd Ms Williams ei bod yn parchu dewis rhieni sy'n dymuno addysgu eu plant gartref, a does dim y mae hi yn ei gynnig am newid hynny.

"Mae nifer o resymau dilys, gwahanol ac weithiau cymhleth y tu 么l i reswm rhai rhieni i ddilyn y llwybr yma, ac mewn rhai achosion dyma'r dewis gorau ar gyfer y plentyn," meddai.

"Ond mae rhaid cael cydbwysedd rhwng y dewis yna a hawliau'r plentyn i dderbyn addysg briodol.

"Trwy sefydlu bas data a chanllaw statudol, bydd awdurdodau lleol yn gallu asesu a yw plentyn yn cael addysg briodol, ac os ydyn nhw'n cael eu haddysgu gartref, bod yr addysgwyr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol."

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Ychwanegodd: "Mae cydbwyso hawl plentyn i addysg briodol a dewis rhieni i addysgu gartref wastad yn mynd i fod yn her, ond rwy'n credu y bydd y cynlluniau yr ydym am ymgynghori yn eu cylch yn ffordd synhwyrol a chymesur ymlaen."

Dywedodd Ms Holland ei bod yn falch o weld Llywodraeth Cymru'n cymryd "cam i'r cyfeiriad cywir".

"Mae'n golygu y bydd yna ofyn statudol ar awdurdodau lleol i wybod pwy sy'n cael eu haddysgu gartref a beth mae'r plant yna yn ei ddysgu," meddai.

"Byddaf, fodd bynnag, yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ateb fy ngalwad flaenorol, yn enwedig mewn perthynas 芒'r angen i bob plentyn cael ei weld a'i glywed gan yr awdurdodau fel y gallwn ni fod yn fwy hyderus bod pob plentyn yng Nghymru 芒 lefel briodol o addysg ac yn cael eu gwarchod."