大象传媒

Banc i gau dwy gangen wledig yn ngogledd Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
BarclaysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Barclays yw'r banc olaf yn Abergwaun

Mae Barclays wedi dweud y byddant yn cau dwy o'u canghennau yng ngogledd Sir Benfro - gan gynnwys y banc olaf yn Abergwaun.

Fe fydd cangen Abergwaun yn cau ar 18 Mai, gyda changen Tyddewi yn cau ar 24 Mai.

Abergwaun yw'r dref wledig diweddara yng Nghymru i weld y banc olaf yn cau ei ddrysau.

Mae'n ergyd arall i'r ardal ar 么l i gwmni datblygu Conygar gyhoeddi'r wythnos diwethaf nad oeddynt am barhau 芒 chynlluniau gwerth 拢100m i godi marina newydd yn ardal yr harbwr.

Un banc, sef Lloyds, fydd ar ol yn Nhyddewi.

Dywedodd llefarydd ar ran Barclays nad ar chwarae bach yr oeddynt yn gwneud penderfyniadau o'r fath.

Ychwanegodd bod gweithgarwch busnes cangen Abergwaun wedi gostwng 22% o fewn y ddwy flynedd diwethaf, a bod gweithgarwch busnes Tyddewi wedi gostwng 35% yn ystod yr un cyfnod.

"Fe fydd cwsmeriaid yn y ddwy ardal yn gallu ymgymryd 芒'u gwasanaethau banciau pob dydd yn Swyddfa'r Post," meddai'r llefarydd.