Carcharu dau am ymladd c诺n a moch daear yng Ngwynedd

Mae dau ddyn wedi eu carcharu wedi i reithgor eu cael yn euog o achosi niwed diangen i anifail drwy orfodi c诺n a mochyn daear i ymladd ym Mlaenau Ffestiniog.

Fe gafodd Jordan Houlston, 24 o Landudno, a David Thomas, 51 o Fferm Cwm Bowydd, eu dedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ar 么l i'r RSPCA eu ffilmio yn cynnal yr ornest mewn coedlan ger y fferm ym mis Chwefror y llynedd.

Cafodd Houlston ei ddedfrydu i 20 wythnos o garchar a bydd rhaid talu 拢5,000 o gostau llys, ac fe gafodd Thomas ddedfryd o 22 wythnos, a 拢715 o gostau.

Mae'r ddau ddyn hefyd wedi eu gwahardd rhag cadw c诺n am wyth mlynedd.

Cafodd trydydd dyn, Marc Morris, 26 o Flaenau Ffestiniog, ddedfryd o 10 wythnos wedi ei ohirio, gorchymyn i gwblhau 150 awr o waith di-d芒l, costau o 拢615 a gwaharddiad rhag cadw c诺n am 4 blynedd ar 么l pledio'n euog i droseddau'n ymwneud 芒 lles anifeiliaid.

Roedd llanc 17 oed eisoes wedi pledio'n euog i fod yn bresennol yn yr ornest, ac fe gafodd ddirwy o 拢220 a'i wahardd rhag cadw c诺n am bedair blynedd.

Gornest mewn set artiffisial

Roedd y dynion wedi cynnal yr ornest gan ddefnyddio mochyn daear oedd wedi ei osod mewn set artiffisial.

Roedd y barnwr yn gwrthod yr honiad y gallai'r mochyn daear fod wedi mynd i'r set yn wirfoddol.

Dywedodd y barnwr bod y fideo yr RSPCA yn dangos fod y gr诺p o ddynion wedi bod yn ymwneud 芒 gweithgaredd sydd wedi bod yn anghyfreithlon ers 1830.

"Roedd hwn yn fenter bwriadol i achosi dioddefaint i anifeiliaid," meddai'r Barnwr Gwyn Jones.

Ychwanegodd fod Houlston a Thomas "wedi chwarae rhan flaenllaw" yn yr hyn a ddigwyddodd, a dywedodd fod lefel uchel o ddioddefaint wedi wynebu'r moch daear a'r c诺n.

"Yn ffodus, ni welsom sut y cafodd y moch daear eu lladd yn y pen draw, ond roedd yn eithaf clir y byddai'r farwolaeth wedi bod yn araf ac yn boenus iawn," meddai'r barnwr.

Y tu allan i'r llys, dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod yn gobeithio y byddai'r ddedfryd yn rhwystr i eraill sy'n ymwneud 芒'r math hwn o weithgaredd.