Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd bod meithrin plant ar-lein yn broblem sy'n tyfu
Mae nifer yr achosion o feithrin perthynas gyda phlant ar-lein yn tyfu i fod yn broblem sylweddol, medd NSPCC Cymru, wrth dynnu sylw at ystadegau sy'n destun "pryder aruthrol".
Dywed yr elusen bod nifer y troseddau rhyw yn erbyn plant a gafodd eu hysbysu i heddluoedd Cymru wedi codi 36% yn y flwyddyn ddiwethaf.
O'r cyfanswm o 2,694 o droseddau, roedd bron i chwarter - sef 764 - 芒 chysylltiad gyda'r we.
Dywed Llywodraeth Cymru fod gwarchod plant rhag pob math o gamdriniaeth yn flaenoriaeth.
Er gwaetha'r cynnydd, mae'r ystadegau, medd yr NSPCC yn arwydd bod yr heddlu'n cymryd camau mawr ymlaen yn y ffordd y maen nhw'n ymchwilio i droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae'r ffactorau'n cynnwys cofnodi mwy effeithiol a mwy o ddioddefwyr sydd 芒'r hyder i gysylltu 芒'r heddlu.
O fewn ardal Heddlu'r De roedd y nifer fwyaf o droseddau rhyw yn erbyn plant, sef 976.
754 oedd y nifer yn ardal Heddlu'r Gogledd, 620 yn ardal Dyfed-Powys a 314 yn ardal Heddlu Gwent.
Mae'r ffigyrau a ddaeth i'r fei wedi ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn dangos mai 15% oedd y cynnydd ar draws y DU.
Dywedodd Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru: "Mae'r cynnydd dramatig yn nifer y trosoeddau a gofnodwyd yn destun pryder aruthrol, ac yn dangos yn union pa mor eang yw camdrin plant yn rhywiol.
"Mae'n bwysig bod plant yn adnabod eu bod yn cael eu cam-drin ac yn gallu siarad gyda rhywun er mwyn atal y camdriniaeth."
Dywedodd ei fod yn hanfodol fod pob plentyn sydd wedi dioddef camdriniaeth yn gallu cael cymorth i ailgydio yn eu bywydau.
Mae'r elusen wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar gynllun gweithredu cenedlaethol i fynd i'r afael 芒 chamfanteisio'n rhywiol ar blant , ac am strategaeth sy'n delio 芒 phob math o gam-drin plant yn rhywiol.
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod gwarchod plant rhag pob math o gamdriniaeth wedi ei adlewyrchu'n glir yn y ddeddfwriaeth a'r polis茂au y mae eisoes wedi eu cyflwyno.
"Fe fyddan ni hefyd yn gweithio gyda byrddau diogelu a phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth am gam-drin plant yn rhywiol," ychwanegodd.
Dadansoddiad India Pollock, gohebydd materion cymdeithasol 大象传媒 Cymru
Mae'r NSPCC yn awyddus i bwysleisio nad yw'r cynnydd yn y ffigyrau o reidrwydd yn golygu bod cam-drin plant yn rhywiol yn fwy cyffredin heddiw nag yn y gorffennol.
Mae'r dedfrydau ddydd Llun yn achosion Barry Bennell a Matthew Falder yn dangos bod mwy o bobl yn cysylltu gyda'r heddlu i ddweud eu bod wedi cael eu cam-drin.
Hefyd mae'n rhaid ystyried troseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i honiadau o gam-drin plant ar Ynys B欧r yn y 1970au a'r 1980au tra bod achos yn parhau fel rhan o Ymgyrch Almond - ymgyrch i achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn dau gartref gofal yn Sir Gaerfyrddin.
Ar ben hynny, fe gafodd trosedd newydd o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn ei chyflwyno y llynedd, sy'n golygu y gallai pobl sy'n meithrin plant trwy ffonau symudol neu wefannau cymdeithasol wynebu hyd at ddwy flynedd mewn carchar.
Fodd bynnag, mae rhai'n dweud nad ydy'r gwersi'n cael eu dysgu o achosion blaenorol a bod angen gwneud mwy i atal camdriniaeth.
Tra bod mwy o bobl yn cysylltu gyda'r heddlu, fe fydd yna lawer o achosion o hyd sydd ddim yn dod i'r amlwg, sy'n golygu y gallai'r ffigyrau fod yn llawer iawn uwch.