Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mae'n iawn i deimlo ofn': Brwydr Steffan Lewis 芒 chanser
Mae Aelod Cynulliad sydd 芒 chanser y coluddyn yn dweud fod angen siarad mwy am effaith emosiynol yr afiechyd.
Dywedodd Steffan Lewis, sydd yn 33 oed a gyda mab sy'n ddwy, ei bod hi'n "iawn i deimlo ofn".
Mae AC Plaid Cymru bellach yn dechrau cwrs 12 wythnos o gemotherapi.
Dywedodd wrth raglen Wales Live fod ganddo "fynydd i'w ddringo" ond ei fod mewn "dwylo arbennig o dda" a bod ganddo "rwydwaith wych o gefnogaeth".
'Hwb mawr'
Doedd gan Mr Lewis ddim symptomau nes iddo deimlo poenau sydyn yn ei stumog ym mis Tachwedd.
Cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn oedd yn ei bedwerydd cyfnod, a mis yn ddiweddarach clywodd fod yr afiechyd wedi lledu i'w iau.
Fe dreuliodd y Nadolig yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, ble cafodd tiwmor ei dynnu o'i goluddyn.
Yn dilyn oedi oherwydd heintiau, mae nawr wedi dechrau cwrs o gemotherapi yng nghanolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael y diagnosis, disgrifiodd wrth Wales Live sut yr oedd ei fab yn ei ysbrydoli.
"Mae hynny'n rhywbeth i ddal 'mlaen ato sef bod gen i fab hyfryd dwy flwydd a hanner a dwi eisiau gweld e'n tyfu lan i fod yn oedolyn hyfryd," meddai.
"Pan mae pethau'n mynd yn anodd dyna dwi'n meddwl amdano, ac mae e'n goleuo fy nydd, yn cadw fi fynd ac mae hwnna'n rhoi hwb mawr i chi."
Dywedodd ei fod hefyd yn bwysig iddo wynebu'r ofn sydd yn dod i'r wyneb weithiau, er gwaethaf ei agwedd "bositif" ar y cyfan.
"Dwi'n bositif yngl欧n ag wynebu hyn, ond does dim byd negyddol chwaith mewn gadael i'ch hunan deimlo emosiynau eraill hefyd," meddai.
"Un o'r pethau fi 'di dysgu yn y cwpl o fisoedd diwethaf yw ei bod hi'n iawn i deimlo ofn, achos mae hwn yn brofiad ofnus a does neb yn gwybod y dyfodol.
"Does dim rhaid cuddio'r emosiwn yna, mae'n iawn i lefain, mae'n iawn i deimlo ofn.
"Dwi'n meddwl bod angen i ni, yn enwedig dynion ifanc fel fi sydd gydag afiechyd fel hyn, i siarad a rhoi caniat芒d i'n gilydd i deimlo ofn a siarad am yr ofn, cyn belled 芒'n bod ni yn y pen draw yn gallu dod drwy'r ochr arall a thrafod e gyda thylwyth neu ffrindiau."
'Negeseuon hyfryd'
Pan gafodd Steffan Lewis ei ethol fel AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru yn 2016, fe oedd aelod ieuengaf y Cynulliad yn 32 oed.
Cyn hynny bu'n ymgynghorydd i'r arweinydd Leanne Wood, ac yna fe ddaeth yn llefarydd y blaid ar Brexit.
Dywedodd fod ei brofiad gyda chanser wedi dangos iddo fod ochr arall i wleidyddiaeth ble nad oes angen i bobl ymosod ar eu gwrthwynebwyr o hyd.
"Fi 'di gweld, pa bynnag blaid, mae pobl jyst wedi bod mor garedig, wedi danfon y cariad, ysgrifennu llythyron hynod o hyfryd, anfon negeseuon hyfryd o bob plaid, sydd wir yn tanlinellu'r ffaith bod llawer mwy i wleidyddiaeth na phigo ar bobl o bleidiau eraill," meddai.
Mae hefyd wedi golygu ei fod wedi cael persbectif newydd ar y gwasanaeth iechyd, fel claf yn hytrach na gwleidydd.
"Pan mae'n fater fel marw neu fyw, fel canser, fy mhrofiad i yw bod y gwasanaeth iechyd yn arbennig, mae e yna i chi pan chi wir angen e," meddai.
Gallwch weld mwy ar Wales Live ar 大象传媒 1 am 22:30.