Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am newid deddf gofal plant sy'n cosbi rhai rhieni
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn galw am newid deddf sy'n cosbi rhieni sy'n trefnu i berthnasau ofalu am eu plant.
Roedd perthnasau oedd wedi cofrestru fel gofalwyr plant yn arfer cael arian gan gynllun gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru.
Ond mae'r budd-dal wedi dod i ben pan ddaeth i'r amlwg bod talu aelodau teulu yn torri deddfwriaeth.
Dywedodd Sophie Howe bod hyn yn annheg, ac mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ystyried a ddylid newid y gyfraith.
"Lle mae neiniau a theidiau'n gofalu am eu hwyrion ac wedi cofrestru fel gofalwyr plant, mae'n gwneud synnwyr perffaith iddyn nhw ofalu am eu hwyrion," dywedodd Ms Howe wrth raglen Wales Live 大象传媒 Cymru.
"Os mae'r rheolau'n atal rhywbeth sy'n gwbwl synhwyrol, gadewch i ni newid y rheolau."
'Cam yn 么l'
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroddi i roi 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio ac sydd 芒 phlant tair a phedair oed
Roedd cynllun peilot wedi caniat谩u i rieni ddefnyddio aelodau teulu sydd wedi cofrestru fel gofalwyr plant, cyn belled 芒'u bod ddim yn byw yn yr un cartref.
Ond mae hynny wedi dod i ben ar 么l iddi ddod i'r amlwg ei fod yn groes i ddeddfwriaeth sy'n bod ers 2010.
O ganlyniad mae rhai rhieni yn gorfod penderfynu rhwng cadw'u plant gyda gofalwyr cofrestredig sy'n perthyn iddyn nhw, neu eu symud at ofalwyr plant eraill neu feithrinfeydd er mwyn derbyn arian.
Mae hyn yn "gam yn 么l" ac i bob pwrpas yn symud plant at ofalwyr dieithr, medd y corff sy'n cynrychioli'r maes, Pacey (The Professional Association for Childcare and Early Years).
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn edrych ar y polisi wrth baratoi i ymestyn y cynllun ar draws Cymru erbyn diwedd 2020.
Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi trafod hyn gyda Pacey ac fe wnawn ni barhau i siarad gyda nhw yngl欧n 芒 pha newidiadau, os unrhyw newidiadau, ellir eu gwneud i'r ddeddfwriaeth cyn ymestyn y cynnig yn genedlaethol."