大象传媒

Ynys M么n yn ceisio cael statws sir ddi-blastig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd AC Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth bod angen i "bawb wneud ein rhan"

Mae ymgyrch wedi dechrau i gael gwared ar boteli, cyllyll a ffyrc a gwellt plastig o sir gyfan.

Nod ymgyrchwyr yw gweld Ynys M么n yn dod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael statws ddi-blastig i'r arfordir.

Daw hyn wedi ymgyrch debyg yng Ngheredigion i waredu plastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith.

Mae busnesau ac unigolion yn cael eu hannog i gymryd rhan, ac mae galwad hefyd ar y cyngor i gefnogi'r ymgyrch.

Cafodd yr ymgyrch ar y cyd gan ddau fudiad - Surfers Against Sewage a Save Our Rivers - ei lansio yn Rhosneigr nos Wener.

'Bygythiad sy'n tyfu'

Un o'r trefnwyr yw Si芒n Sykes, a dywedodd: "Ry'n ni wedi dod yn gymdeithas sy'n ddibynnol ar hwylustod a thaflu pethau i ffwrdd, ac mae'n rhaid i ni geisio newid hynny.

"Byddai hyn [creu sir ddi-blastig] yn un o'r ffyrdd gorau i symud i ffwrdd o blastig un-defnydd ac achub ein hafonydd a moroedd o'r bygythiad yma sy'n tyfu."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Yn ogystal 芒 pherswadio pobl i beidio defnyddio cynnyrch plastig un-defnydd, mae'r ymgyrchwyr yn ceisio sefydlu rhwydwaith ail-lenwi d诺r ar draws yr ynys.

Byddai hynny'n golygu caffis, tafarndai a siopau yn cynnig cyfleusterau i lenwi poteli d诺r yn hytrach na gweld pobl yn prynu d诺r mewn poteli plastig.

'Hybu mentrau di-blastig'

Fe fyddai'r busnesau sy'n cynnig y gwasanaeth yn cael eu rhestru ar ap ff么n symudol i ddangos lle maen nhw.

Daw'r ymgyrch yn dilyn ymdrechion yng Ngheredigion i leihau'r defnydd o blastig, ond mae'r ymgyrchwyr ym M么n am fynd ymhellach a chael statws cydnabyddedig i'r sir fel ardal sy'n rhydd o blastig un-defnydd.

Bydd Cyngor Ynys M么n hefyd yn ystyried cynnig i leihau'r defnydd o blastig yr wythnos nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas o Drearddur: "Byddaf yn gofyn i fy nghyd-gynghorwyr i gefnogi ymgyrch i leihau'r defnydd o blastig ar ein safleoedd ac ysgolion, a hefyd i hybu mentrau di-blastig ac annog busnesau i ddefnyddio plastig sy'n llai tafladwy."