'Dim cynllun' am waharddiad ceir petrol yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Does gan Lywodraeth Cymru "ddim cynllun" i baratoi'r wlad ar gyfer dyfodol heb geir petrol a disel, yn 么l AC Plaid Cymru.

Bydd ceir petrol a disel newydd yn cael eu gwahardd gan Lywodraeth y DU o 2040.

Yn 么l Simon Thomas, mae gweinidogion Cymru "ar ei h么l hi" yn datblygu opsiynau eraill i ddelio gyda'r gwaharddiad, fel trafnidiaeth gyhoeddus a seiclo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn edrych ar fesurau i gefnogi cael gwared ar gerbydau petrol a disel.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am dreth cerbydau, treth tanwydd a safonau cerbydau, ond mae'r ffyrdd eu hunain a pholisi yngl欧n 芒 seiclo a cherdded yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

'Cerddwyr a seiclwyr gyntaf'

Dywedodd Mr Thomas, llefarydd Plaid Cymru dros yr amgylchedd, wrth raglen Sunday Politics Wales: "Rydych chi'n mynd i lefydd fel Copenhagen a Ffrainc ac maen nhw wedi dechrau newid a rhoi'r broses ar waith.

"Felly mae cerddwyr a seiclwyr yn dod gyntaf, ac mae'r car yn dod yn ail, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o hynny.

"Rydyn ni'n bell ar ei h么l hi."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Simon Thomas bod gwledydd eraill wedi dechrau newid eisoes

Ym mhrifddinas Denmarc, Copenhagen, mae dros hanner y boblogaeth yn seiclo i'r gwaith, a hynny ar dros 200 milltir o lwybrau beicio.

Dywedodd gyn-aelod o gyngor y ddinas, Klaus Bondam, wrth y rhaglen bod yr isadeiledd yn ganlyniad i bron i 100 mlynedd o fuddsoddi.

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd, David Melding, y dylai Cymru fod 芒 mwy o uchelgais yn cynnig opsiynau gwahanol i'r car.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio Deddf Teithio Llesol 2013, sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i wella llwybrau cerdded a beicio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 200 milltir o lwybrau beicio ym mhrifddinas Denmarc, Copenhagen

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "trafod 芒 Llywodraeth y DU ar ddatblygiad ei strategaeth ar drafnidiaeth carbon isel, a sut fydd yr addewid i fuddsoddi mwy o arian mewn cerbydau carbon isel o fudd i Gymru".

Ychwanegodd bod ganddynt gynlluniau ar gyfer mannau i wefru ceir trydanol ar amryw o ffyrdd.

Dywedodd hefyd bod 拢31m wedi'i roi y llynedd i gefnogi cynghorau lleol i wella isadeiledd cerdded a seiclo.

Sunday Politics Wales, 大象传媒 One Wales, 11:00 dydd Sul 25 Chwefror.